Mae’r ardal hon yn ddiddorol oherwydd ei strydoedd a’i llwybrau culion, a thai teras Church Walks, Mount Pleasant a Rose Hill.

Er bod y tai teras dau lawr hyn yn debyg o ran maint, maen nhw’n wahanol o ran deunydd adeiladu a gorffeniad. Er enghraifft, mae rhai yn fythynnod cerrig â briciau melyn neu goch o amgylch y ffenestri, tra bod gan rai eraill waliau chwip.
Er eu bod wedi newid rhywfaint, yn arbennig o ran eu drysau a’u ffenestri, mae’r tai teras hyn wedi dal gafael ar gryn dipyn o’u cymeriad gwreiddiol. Mae’n werth, er enghraifft, edrych ar dai teras Rose Hill, gyda’u gerddi blaen bychan yn wynebu’r llwybr troed sy’n arwain i fyny at Ffordd Llanelian.
