Church Walks, Hen Golwyn

Yn 1858, y tir sydd bellach â’r enw Church Walks oedd y darn cyntaf o dir yn Hen Golwyn i’w werthu gan Stâd Coed Coch. Prynwyd y tir gan ŵr o’r enw David Davies, a adeiladodd ddau dŷ yma.

Yn wreiddiol roedd y ffordd i barhau yn ei flaen at Ffordd Llanelian ond fe adeiladodd ryw Mr Lloyd dŷ ar ei draws gan rwystro hynny rhag digwydd. Codwyd Hebron, capel Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg cyntaf y pentre ar ochr chwith y llwybr. Rhoddwyd yr enw Hebron Terrace ar y tai y drws nesaf i’r capel ond ymhen amser trowyd y capel ei hun yn dŷ preifat.

Yn 1862, fe adeiladodd y Bedyddwyr Cymraeg gapel yma, ac mae hwnnw bellach yn dai rhifau 15 ac 16. Mae cyfeirlyfr masnach leol 1911 yn nodi bod 19 adeilad ar Church Walks. Siop fara Price oedd yn rhifau 2 a 3, ac wedi i’r busnes ddod i ben yn yr 1950au fe ddefnyddiwyd yr adeiladau gan gwmni Partington Ltd ar gyfer cynhyrchu eu fferins Ormeside.

 

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group