
Edrychwch ar y llun ar wal allanol y dafarn hon. Mae hwn yn dangos bod cysylltiad gwirioneddol rhwng Llandrillo-yn-Rhos a datblygiad hedfan yn fyd eang.
Roedd y Teulu Cayley yn berchnogion tir mawr yn lleol a gwelir gwelir ôl eu dylanwad yn llawer o’r enwau strydoedd lleol, gan gynnwys Promenâd Cayley (a’i glawdd gwyrdd deniadol).
Mae’r llun ar y dafarn yn coffau un o’u hynafiaid, Syr George Cayley o Brompton ger Sgellidawley yn Swydd Efrog, dyfeisiwr o fri y gellid dadlau mai ef oedd gwir arloeswr hedfan. Darganfu egwyddorion allweddol eronoteg a’i galluogodd i ddylunio peiriant hedfan ymarferol 50 mlynedd cyn y brodyr Wright.
Ym 1853, adeiladodd Syr George beiriant a allai gludo pwysau dyn. Gelwid y gleider hon yn ‘Cayley Flyer’ (ond mae’n sicr bod ei gynllun yn wahanol i’r darlun ar wal y dafarn) a braenarodd y tir i’r brodyr Wright a lwyddodd i hedfan awyren gyda phŵer ym 1903. Bu i’r brodyr Wright gydnabod eu dyled iddo’n llawn.
Bu i’r Cayley Flyer hedfan am ryw 900 troedfedd dros Brompton Dale cyn cwympo. Dyma’r ehediad cyntaf mewn hanes mewn awyren a oedd ag adenydd sefydlog, a theg yw dweud mai Syr George Cayley a ddyfeisiodd yr awyren.
Mae’n ddiddorol na fu i Syr George hedfan yr awyren drosto ei hun (er tegwch iddo, roedd yn 80 oed ar y pryd). Yn hytrach, gorchmynnodd i’w goetsmon druan (John Daley) ei hedfan drosto. Teg dweud nad oedd John Daley’n falch o gael cymryd rhan yn yr arbrawf pwysig hwn a’i fod iddo yn fwy pryderus am y peryglon iddo ef fel peilot. Ar ôl mynd trwy’r profiad unigryw ac arswydus hwn, fe ymddiswyddodd yn y fan a’r lle, gan ddweud ‘Please, Sir George, I wish to give my notice. I was hired to drive, not to fly’ – ymateb digon rhesymol!
Mae’n syndod cyn lleied o sylw a gafodd Sir George ym Mhrydain am ei gamp fawr – mae’n llawer mwy adnabyddus yn America. Fodd bynnag, yn Llandrillo-yn-Rhos o leia’ mae’n cael peth cydnabyddiaeth yn enw’r dafarn ac enwau’r strydoedd lleol.
