Darganfuwyd chwe darn arian Rhufeinig mewn cyflwr gwych sy’n dyddio o oes Cystennin Fawr mewn hen ddraen gerrig yn yr ardd, ac felly mae’n bosib bod gan y safle hynafol hwn gysylltiadau a’r oes Rufeinig.
Yn y Canol Oesoedd, credir bod ty’n sefyll ar y safle hwn a berthynai’r mynachod Sistersaidd mawr ym Maenan yn Nyffryn Conwy a adwaenid fel Abaty Aberconwy.
Os felly, byddai’r mynachod a oedd yn gyfrifol am gasglu pysgod o’r gored hynafol wedi ei defnyddio fel lle i aros dros nos. (Mae traddodiad bod mynach mewn gwisg frown a chlogyn gwyn i’w weld o hyd yn yr adeiladau!).
Mae siarter gan Llywelyn Fawr dyddiedig 1230 yn nodi bod holl hawliau tir ‘Ros Veneych’ wedi eu prynu gan ei brif gynghorydd, Ednyfed Fychan ‘ar yr amod ei fod yn talu rhent o 2 swllt y flwyddyn (10c yn arian heddiw) i dalu am lampiau eglwys y plwyf dros y Pasg’.
Roedd Ednyfed yn ffigur pwysig yn hanes Cymru. Roedd yn berchen ar faenordy wrth droed Bryn Euryn, y bryn y tu ol i Llandrillo-yn-Rhos.
Rydym hefyd yn gwybod yn ol siarter bod Rhos Fynach, ynghyd a’i thiroedd a’i hawliau pysgota (y gored) wedi eu rhoi i’r Capten Henry Morgan ym 1575 gan Iarll Caerlyr am 6 cheiniog. Fe’u rhoddwyd ar y telerau ffafriol hyn ‘er cydnabod y gwasanaethau a roes ef ar y mor rhag gelynion y Frenhines’. Mewn geiriau eraill, roedd y Capten Morgan yn fordwywr yn nhraddodiad Drake, herwlongwr na phoenai a oedd Lloegr mewn rhyfel yn erbyn y llongau yr ymosodai arnynt neu beidio. Yn anffodus, nid dyma’r Capten Morgan hwnnw, y mor-leidr hynod (yr hwn yr enwyd y rym enwog ar ei ol), er gwaetha’r sibrydion sy’n mynnu fel arall.

