Yn 1908, suddodd stemar o’r enw Rhos Neigr wrth geisio docio wrth y pier i gasglu 75 o deithwyr. Gallwch weld peth o ddrylliad y stemar pan fydd y llanw’n isel iawn ychydig gannoedd o lathenni allan i gyfeiriad y mor ac i’r chwith i’r Pier gwreiddiol (wedi ei ddangos gyda bwi glas).

