Y Pier a’r adeilad cerrig wythochrog a ddylai fod yno o hyd oedd Swyddfa Docynnau wreiddiol y Pier. Ar un cyfnod roedd gan Llandrillo-yn-Rhos bier sylweddol iawn 1500 troedfedd o hyd (a brynwyd yn ail law o Douglas yn Ynys Manaw ym 1895). Roedd y ‘Colwyn Bay & Liverpool Steamship Co’ yn cynnal gwasanaeth stemar rheolaidd i deithwyr am flynyddoedd lawer rhwng Lerpwl a Chaergybi ac yn defnyddio’r pier hwn i ollwg teithwyr ar gyfer Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tynnodd y Fyddin Gartref lawer o blanciau’r pier i ffwrdd, fel y byddai unrhyw filwyr Almaenaidd a fyddai’n ceisio defnyddio’r pier i oresgyn yn y nos yn syrthio trwy’r tyllau!
