Cwmni Ystâd Pwllycrochan a Bae Colwyn

Cwmni Ystâd Pwllycrochan a Bae Colwyn oedd yn berchen ar y tir lle mae Bae Colwyn heddiw a’r cwmni hwn oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygiad y dref tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Sefydlwyd y cwmni pan benderfynodd Syr Thomas Erskine werthu ei ystâd ym 1865.

Dywedwyd ym mhamffled stad Pwllycrochan, yn Saesneg wrth gwrs, fod y plasty’n sefyll mewn “cymdogaeth boblogaidd gyda’r golygfeydd gorau o’r môr. Gerllaw mae traeth ymdrochi bendigedig sy’n filltir a chwarter o hyd. Mae ar siâp tro pedol ac yn ffurfio amffitheatr berffaith. Byddwn yn gwerthu’r plasdy fel un eitem a’r rhan ychwanegol ger y môr ar wahân. Diben hyn fydd diwallu’r galw cynyddol am dai ar yr arfordir.”

Fe brynodd John Pender, dyn busnes o Fanceinion blasty Pwllycrochan, adeiladau’r fferm a’r 700 erw o dir am £26,000. Prif ddiddordeb John Pender oedd hyrwyddo’r defnydd o ‘geblau trawsatlantig’ sef y llinellau ffôn cynharaf rhwng Prydain a’r America. Roedd yn bwriadu datblygu tref lan môr hefyd i ddenu trigolion cyfoethog Manceinion a Lerpwl. Yn anffodus bu i’w broblemau ariannol ei rwystro rhag gwneud hyn a bu’n rhaid iddo werthu’r stâd o’r herwydd.

pwllycrochan hotel

Roedd yr arwerthwr yn disgwyl gwerthu’r ystâd fesul darn ond fe brynodd grŵp o ddynion busnes o Fanceinion y rhan fwyaf ohono am £87,500. Fe werthwyd pum uned fechan o dir hefyd i Gwmni Rheilffordd a Gwesty Bae Colwyn (a oedd newydd ei gwblhau). Bu i asiant John Pender, John Porter brynu rhydd-ddaliad Gwesty Pwllycrochan gan agor y gwesty ym 1866.

Erbyn 1875 yr unig beth roedd John Pender wedi’i ddatblygu mewn gwirionedd oedd clwstwr o dai a siopau o ran ddwyreiniol Ffordd yr Orsaf hyd at y Gwesty Brenhinol. Cododd hefyd Deras Gwelfor ar Ffordd Gwelfor. Roedd hyn wrth gwrs ar wahân i Westy Bae Colwyn a’r ddwy fila sydd ar ben Ffordd Marine heddiw.

Ymysg y grŵp o bobl a brynodd yr ystâd roedd Abraham Lloyd a ddaeth maes o law yn Faer Manceinion a Lawrence Booth, pensaer oedd yn adnabyddus am gynllunio adeiladau mawr. Bu i’r ddau ffurfio Cwmni Ystâd Pwllycrochan a Bae Colwyn er mwyn parhau â’r gwaith o gynllunio a datblygu tref glan môr. Fe rannodd y ddau’r tir i leiniau ar gyfer adeiladau a bu iddyn nhw hefyd lywio’r gwaith adeiladu. Roedd hyn yn sicrhau bod y Cwmni’n gyfrifol am ffurfio cymeriad y dref. Fe wariodd y cwmni lawer iawn o arian ar osod ffyrdd a system garthffosiaeth heb wneud ceiniog o elw am flynyddoedd.

Roedd swyddfa’r cwmni stâd ym Mae Colwyn ac o’r fan hyn bu cyfres o benseiri blaenllaw yn goruchwylio’r gwaith yn eu tro. Yr enwocaf o’u plith oedd John Merry Porter, mab John Porter. Cafodd John Merry Porter ei fagu ym Mae Colwyn a phenderfynodd ddychwelyd i’r dref wedi iddo gymhwyso fel pensaer. Daeth yn bartner yng nghwmni penseiri, arolygwyr a gwerthwyr tai Lawrence Booth a Thomas Chadwick. Ffurfiwyd y bartneriaeth ym 1876 gyda’r diben o greu asiant i’r Cwmni Stâd. Ailenwyd y bartneriaeth yn J M Porter a’i gwmni maes o law a bu ym Mae Colwyn nes cafodd ei diddymu ym 1973. Porter oedd rheolwr swyddfa Bae Colwyn ac ef oedd yn gyfrifol am gynllunio a chodi nifer o’r adeiladau, fel Adeiladau’r Frenhines ar Ffordd yr Orsaf.

Roedd Cwmni Ystâd Pwllycrochan a Bae Colwyn yn ei anterth rhwng 1875 a’r 1920au. Erbyn 1901 roedd  Bae Colwyn wedi newid o gaeau gwyrdd i fod yn dref  â phoblogaeth o 8,576. Erbyn 1911 roedd y boblogaeth wedi tyfu i 12,630 ac ymhen degawd eto roedd wedi cyrraedd 21,566. Erbyn hynny roedd Bae Colwyn yn adnabyddus fel tref glan môr bwysig a phoblogaidd.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group