Yn 1899 fe gyhoeddodd y Canon Hugh Roberts, Ficar Bae Colwyn, apêl a oedd o’i gyfieithu o’r Saesneg gwreiddiol yn darllen fel hyn:
‘Apêl Taer a Therfynol dros Eglwys Gymraeg’.
“A gawn ni’n barchus ddwyn eich sylw at achos yr ydym yn credu ei fod yn un eithriadol? Mae darparu mecanwaith Eglwysig ynghyd â chyflogau blynyddol Ficer, offeiriaid cynorthwyol ac ati, ar gyfer poblogaeth ddwyieithog cymaint â 6000 o eneidiau ac mor sydyn ei hymddangosiad, a’r rhan helaethaf o’r rheiny’n cadw tai llety, wedi gosod gryn bwysau ar ein hysgwyddau o ystyried bod hwn yn Blwyf newydd gyda gwaddol blynyddol o £120.
Mae angen o hyd i adeiladu Eglwys Gymraeg. Mae safle gennym ni ac mae £1035 wedi ei godi… rydym yn dyheu yn fawr i gael dechrau ar unwaith ar y gwaith adeiladu, oherwydd bod oedi’n rwystr i lwyddiant yr Eglwys ymhlith ein siaradwyr Cymraeg – yr union ddosbarth o bobl y mae’r Eglwys mor awyddus i’w adennill. Mae 2,000 ohonyn nhw yn y Plwyf.”
Ei gyhoeddiad nesaf (unwaith eto yn y Saesneg) oedd bod “Codi’r Eglwys Newydd Gymraeg i ddechrau cyn bo hir a’r cytundeb i’w hadeiladu wedi ei ymddiried i Mr Evan Jones o’r Groeslon, Caernarfon, y g?r a fu’n gyfrifol am adeiladu Eglwys Crist Bryn-y-Maen.”

Mae’n sir y rhoddodd yr apêl hwb ychwanegol i’r gwaith o gwblhau’r eglwys. Fe adeiladwyd o yn ymyl ochr ddeheuol eglwys St Paul’s. Fodd bynnag mae’n bwysig nodi ei bod wedi ei hadeiladu y ffordd chwith i’r arfer, a bod yr allor yn y pen gorllewinol yn hytrach na’r pen dwyreiniol. Mae i’r adeilad siâp petryal syml, gyda thalcen crwn tair ochrog yn ffurfio ei seintwar. Fe orffenwyd yr adeilad yn 1903 ar gost o £1,858.
Mae cofnod yn dal i fod o gyfarfod yn 1916 lle nodwyd y golled fawr a gafwyd i’r plwyf pan fu farw’r Canon Hugh Roberts ar Chwefror yr 22ain y flwyddyn honno. Roedd wedi gweithio’n ddiflino dros y plwyf ers 23 blynedd. Yn ystod ei gyfnod fel Ficar Bae Colwyn roedd wedi cwblhau eglwys St. Paul’s, wedi adeiladu eglwysi Dewi Sant a St. Andrew’s, ac hefyd wedi adeiladu’r ficerdy ac ysgoldy’r eglwys.
Yn fwy diweddar bu i eglwys Dewi Sant ymgymryd â gweledigaeth newydd dan arweiniad y Ficar yno, y Parch. Nigel Williams. Cafodd ei thu mewn ei haildrefnu’n llwyr, a hynny er mwyn galluogi mudiad ARC Communities i barhau â’i gwaith efo pobl digartref ac agored i niwed ym Mae Colwyn. Gosodwyd wal wydr ar draws y llawr cyntaf er mwyn creu swyddfa ac ystafell gyfarfod. Yn nhu blaen yr eglwys roedd yna le wedi ei garpedu a’i neilltuo ar gyfer gwasanaethau o addoliad. Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio pob diwrnod o’r wythnos. Agorwyd y cyfleusterau newydd ar Sul y Blodau 2011.
Pensaerniaeth
Mae Eglwys Dewi Sant yn adeilad Rhestredig Gradd 2 ac yn sefyll ar ochr orllewinol Ffordd Rhiw y tu ôl i eglwys St Paul’s. Fe’i adeiladwyd fel eglwys Gymraeg yn 1902-03, a’r cynllunwyr oedd cwmni pensaernïol Douglas and Fordham.
Roedd John Douglas, 1830-1911, yn un o benseiri mwyaf nodedig gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Mae sawl enghraifft o’i waith ym Mae Colwyn, yn cynnwys eglwys St Paul’s ac eglwys St John’s yn Hen Golwyn.
Mae cynllun yr eglwys, gyda’r to teils coch a’r t?r cloch sgwâr yn codi o’r pen dwyreiniol yn un arbennig ac unigryw. Mae meindwr wythochrog i’w gael hefyd ar ben t?r y gloch.
Mae’r waliau wedi eu hadeiladu o flociau calchfaen sgwâr ag elfennau cyferbyniol o dywodfaen coch, er enghraifft, o gwmpas y ffenestri, yn fframio’r ffenestri ac yn y rhesi addurniadol. Mae yna gapel wrth dalcen crwn pen gorllewinol yr adeilad.
Mae’r wal ddeheuol wedi ei rhannu’n bum cilfach gyda ffenestri dellt â chwareli sgwar. Mae porth bychan prif fynedfa’r eglwys, yn ddymunol ei gynllun ac yn wynebu Ffordd Rhiw. Fel yr eglwys mae o wedi ei doi â theils coch, ac mae ei ochrau pren wedi eu llunio ar batrwm Tuduraidd du a gwyn. Mae ffenestri ar bob ochr y porth, a ffenestr fwy uwchben yn wynebu’r ffordd. Mae’r wal arall ar yr ochr ogleddol yn debyg o ran ei gynllun i’r wal ddeheuol.
Yn wahanol i fwtresi eraill adeiladau eglwysig y dref mae rhai eglwys Dewi Sant yn rhai pigfain. Sylwch ar y garreg ddyddio yn nodi blwyddyn adeiladu’r eglwys, 1902, ar ochr dde’r porth.
Mae eglwysi Dewi Sant a St Paul’s (ynghyd â sywddfa’r heddlu, neuadd y dref ac adeiladau’r llys ar draws y ffordd) yn gasgliad diddorol o adeiladau i’w cael yng nghanol y dref.
