Yn dilyn gwerthu Stâd Pwllycrochan ym 1865 a sefydlu Cwmni Bae Colwyn a Stâd Pwllycrochan ym 1875 fe ddatblygodd yr ardal yn aruthrol. Roedd y cwmni’n ymwybodol iawn o’r cyswllt rheilffordd rhwydd gyda threfi gogledd orllewin Lloegr ac o’r posibilrwydd i ddatblygu cyrchfan gwyliau ffasiynol. Gyda hynny mewn golwg fe werthwyd y tir ar gyfer adeiladu. O’r diwrnod hwnnw ymlaen tyfodd y dref fel cyrchfan gwyliau gyda’r boblogaeth yn cyrraedd 4,754 ym 1891. Erbyn 1907 roedd y nifer wedi cynyddu i 12,000 gydag oddeutu 15,000 o ymwelwyr yn dod i aros bob blwyddyn.
Yn ogystal ag adeiladu tai roedd angen hefyd adeiladu siopau a chanolfannau cymunedol ar gyfer y nifer cynyddol o drigolion ac ymwelwyr. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd eglwysi a chapeli yn rhan bwysigo bob cymuned ac, yn naturiol felly, sefydlwyd nifer o eglwysi a chapeli yn yr ardal.
Mae’r Grŵp Treftadaeth, gyda chymorth Cytûn ac aelodau o’r cynulleidfaoedd yn y dref, wedi paratoi llwybr treftadaeth a llyfryn yn seiliedig ar hanes y nifer eglwysi a chapeli yma.
