Tŷ Cwrdd y Cyfeillion, Ffordd Erskine

Nid oes unrhyw gofnod o gyfarfodydd cyntaf y Crynwyr ym Mae Colwyn er ei bod yn ddiogel cymryd yn ganiataol eu bod wedi dechrau yng nghartrefi pobl yn y 1890au. Roedd hyn o gwmpas amser datblygiad Bae Colwyn fel ardal breswyl a chyrchfan gwyliau a bu i nifer fach o Grynwyr ddewis symud i’r dref yn eu hymddeoliad.

Ym 1899 symudodd y Crynwyr o’u cyfarfodydd mewn tai i ystafell yn Central Buildings. Mae’r “North Wales Weekly News and Visitors Chronicle” o 13 Ionawr, 1899 yn cofnodi ‘Cyfarfod Addoli yn cael ei gynnal am 11.00am pob Diwrnod Cyntaf mewn ystafell yn Central Buildings (yn wynebu Ffordd yr Orsaf), Bae Colwyn’. Credir i’r cyfarfodydd barhau yno tra bod y Tŷ Cwrdd presennol yn Erskine Road yn cael ei gynllunio a’i ddatblygu.

friends meeting house

Cafodd y Tŷ Cwrdd ei hadeiladu a’i hagor yn 1899. Cafodd ei chynllunio a’i hadeiladu yn benodol ar gyfer defnydd y Crynwyr gan Anna (Arglwyddes) Barlow a’i ddau fab er cof am ei g?r Syr Thomas Barlow. Roeddent yn bobl fusnes o Fanceinion a oedd yn byw am ran o bob blwyddyn ym Mryn Eirias, plasty gyferbyn â’r brif fynedfa i Barc Eirias, ond wedi ei ddymchwel yn hir ers hynny. Er nad oeddent yn Grynwyr eu hunain, roeddent yn parchu credoau crefyddol a chyfanrwydd Cymdeithas y Cyfeillion. Cafodd y Tŷ Cwrdd ei gynnal mewn ymddiriedolaeth gan y teulu Barlow tan 1987 pan gafodd ei gyflwyno i’r Cyfeillion. Mae’r adeilad yn darparu seddi ar gyfer oddeutu 80 o bobl ac yn cynnwys cegin, ystafell fyw a llyfrgell yn ychwanegol at y brif ardal addoli. Mae aelodaeth y Tŷ Cwrdd wedi amrywio dros y blynyddoedd wrth i bobl fynd a dod, ond mae addoli wythnosol rheolaidd wedi bod yn ddi-dor ers i’r adeilad gael ei agor.

Sefydlwyd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion gan George Fox (1626-1691) yn ystod cyfnod o aflonyddwch cymdeithasol mawr a chythrwfl crefyddol. Credai fod cyfryngwyr rhwng pobl a Duw yn ddiangen (h.y. Offeiriaid a Gweinidogion). Daeth ei ddysgeidiaeth ac ef i wrthdaro gyda’r awdurdodau sifil a chrefyddol y dydd a bu iddo ef a’i ddilynwyr ddioddef erledigaeth ofnadwy. Bu llawer yn treulio amser yn y carchar oherwydd na fyddent yn cydymffurfio â’r gyfraith y tir, a chawsant eu gwahardd rhag y Prifysgolion. Yn ddiweddarach daeth y Cyfeillion yn arloeswyr ym maes addysg, yswiriant, masnach a diwydiant a daethant yn adnabyddus am eu hymrwymiad i amodau gwaith da ar gyfer gweithwyr a darparu tai digonol i bawb.

Heddiw mae Crynwyr yn gweithio i ddatrys gwrthdaro yn y rhannau o’r byd sy’n cael eu rhwygo gan ryfel, gan ddod â chynrychiolwyr o garfanau gwrthwynebol ar lefel leol a rhyngwladol at ei gilydd yn eu Tai Cwrdd yn y gobaith y bydd cyfarfod ar dir niwtral yn helpu iddynt ddeall ei gilydd ai gwahaniaethau yn well.

Pensaerniaeth

Saif Tŷ Cwrdd y Cyfeillion ar ochr orllewinol Ffordd Erskine. Mae’r adeilad yn un o nifer o gapeli coch sylweddol i’w cael yn y dref gyda’i tho teils coch, waliau brics coch a simnai brics coch.

Fel cyferbyniad i’r brics, mae tywodfaen wedi cael ei ddefnyddio yn gynnil ar gyfer y parapetau talcen, pen y bwtresi a lintols y ffenestri. Mae’r drychiad sy’n wynebu Ffordd Erskine, yn syml, ond a chynllun dymunol gyda baeau wedi’i rhannu gan fwtresi bas gyda ffenestri bwaog hanner crwn yn y canol gyda gwydr clir.

Ymysg y nodweddion penodol i’w nodi mae’r cyntedd blaen gyda’i ddrws bwaog mewn brics wedi mowldio a’r pâr o ddrysau panel gwyrdd tywyll. Mae ffenestr gron yn uchel ar y talcen gogleddol wedi ei rhannu’n naw panel o wydr lliw.

Mae tŷ deulawr, yn sefyll ar y pen deheuol, yn rhan o’r ganolfan gyfan.

Mae’r nodweddion arbennig i’w nodi yn cynnwys y porth blaen gyda’r drws bwa mewn brics mowldio a phâr o ddrysau panylog gwyrdd tywyll. Mae ffenestr cylch uchel ar y talcen gogledd, sydd yn wag fel arall, wedi ei rhannu yn naw panel gwydr lliw.

Mae tŷ deulawr, yn sefyll ar y pen deheuol, yn ffurfio rhan o’r safle.

Mae tir y Tŷ Cwrdd â gardd y tŷ yn gorwedd y tu ôl i wal galchfaen gyda cherrig copa ceiliog ac iâr – yn nodweddiadol iawn o’r dref.

Ffynonellau:

Taflen, ‘Religious Society of Friends (Quakers)’ a gynhyrchwyd gan yr aelodau lleol.

Llyfryn wedi ei baratoi ynghyd ac arddangosfa yn 1989 i roi gwybodaeth am gyfarfodydd y Crynwyr ym Mae Colwyn.

Gwybodaeth ychwanegol:

Crynwyr Gogledd Cymru

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group