Fe sefydlwyd yr eglwys yn 1884 fel Eglwys Bedyddwyr Saesneg Bae Colwyn. I ddechrau roedd y gynulleidfa’n defnyddio adeilad Capel y Bedyddwyr Cymraeg yn Hen Golwyn, gan gynnal gwasanaethau ar wahân yno, ond fe symudodd yn 1888 i rannu Tabernacl ar Ffordd Abergele Bae Colwyn.
Yn 1893 fe symudodd i adeilad sinc ar Ffordd Abergele lle mae siop Stermat erbyn hyn. 20 mlynedd yn ddiweddarach fe werthwyd yr adeilad, ynghyd â thir garej Braids, a thrwy hynny sicrhau digon o arian i godi adeilad newydd ar Ffordd Hawarden. Yn ystod y deng mis y cymerodd i godi’r eglwys newydd fe fu’r gynulleidfa’n addoli yn y Cosy Cinema, ar Fordd Conwy. Fe symudwyd i’r adeilad newydd ar Ffordd Hawarden ar y 18fed o Ragfyr 1913.

Y bwriad gwreiddiol oedd i adeiladu eglwys a neuadd ar safle Ffordd Hawarden ond dim ond y neuadd a adeiladwyd yn y lle cyntaf. Fe osodwyd pulpud a bedyddfa yn y neuadd gyda’r amcan o’i ddefnyddio fel seintwar dros dro a’r bwriad ymhen amser i godi seintwar draddodiadol. Yn 1933 fe ychwanegwyd festri, ysgoldy a chegin at ystafelloedd atodol y neuadd.
Oherwydd lleihad yn y gynulleidfa yn ystod y rhyfel fe unodd y gynulleidfa gyda chynulleidfa Annibynwyr Saesneg (yr Union Church) ar Ffordd Abergele yn 1946. Yna yn 1953 fe symudodd yn ôl i Ffordd Hawarden.
Yn 1988 fe agorwyd seintwar newydd i ddarparu ar gyfer cynulleidfa a oedd yn tyfu ac o hynny ymlaen fe newidwyd yr enw’n swyddogol i Princes Drive Baptist Church.
Ei phensaerniaeth
Mae Eglwys Bedyddwyr Princes Drive yn cynnwys yr hen a’r newydd. Mae’r rhan newydd, sef adeilad brics brown golau gyda phorth agored ar ei gornel a tho teils coch – yn wynebu Princes Drive a Ffordd Hawarden. Mae’r hen rhan sy’n wynebu Ffordd Hawarden yn dalcen syml wedi ei adeiladu o flociau calchfaen sgwâr gyda rhesi addurniadol a fframiau ffenestr o dywodfaen coch. Mae’r ffenestr yno bellach wedi ei wydro â gwydr clir.

Gwybodaeth bellach: Gwefan Eglwys Fedyddwyr Rhodfa’r Tywysog
