Fe ddaeth yn amlwg ar ddechrau’r 20fed ganrif nad oedd Eglwys Genhadol yr Eglwys (Anglicanaidd) yng Nghymru ar Ffordd Coed Pella yn ddigon o faint i ymdopi ag anghenion pen gorllewinol y plwyf, a oedd erbyn hynny wedi ei ddatblygu’n sylweddol. Felly, gan gydnabod bod angen adeilad mwy o ran ei faint a mwy pwrpasol, fe ddechreuodd arweinwyr Eglwysig yr ardal achos newydd a arweiniodd ymhen amser at godi eglwys newydd ar gornel Ffordd Lansdowne a Ffordd y Brenin.

Prynwyd y safle ar gost o £750 a gosodwyd y carreg sylfaen ar Dachwedd yr 2ail 1908. Adeiladwyd rhan gyntaf corff yr eglwys newydd ar gost o £1,469, ac yn 1925 fe ychwanegwyd cangell, ystafell i’r organ a festri ar gost pellach o £2,930.
Agorwyd y neuadd, Neuadd y Jiwbili, fel rhan o ddathliadau jiwbili’r eglwys ar y 23ain o Fedi 1960 gyda’r rhan fwyaf o’r £3,000 a oedd ei angen i dalu amdani wedi ei godi gan y plwyfolion.
Pensaerniaeth
Roedd y cynllun gwreiddiol, gan gwmni J M Porter and Elcock, ar gyfer eglwys â chorff dwbl gyda th?r ym mhen dwyreiniol y corff gogleddol. Yn anffodus ni wireddwyd y cynllun a dim ond un corff, a hwnnw tua 72 o droedfeddi o hyd a 25 o droedfeddi o led gyda seddi ar gyfer 300 o bobl, a godwyd. Mae dwy ran i’r adeilad sydd i’w weld heddiw – y rhan orllewinol wreiddiol yn null Gothig y mudiad Arts and Crafts a ddechreuwyd yn 1908, a’r rhan ddwyreiniol ddiweddarach a godwyd yn 1924, sef y gangell a’r adain ogleddol a adeiladwyd yn y dull Perpendiciwlar.
Llechi gwyrdd Westmorland sydd ar do’r eglwys, y rheiny wedi eu gosod fel bod rhai mawr ar y gwaelod a rhai llai wrth y brig a hwnnw wedi ei warchod gan gerrig crib syml hirion. Mae’r waliau wedi ei codi’n ddi-gwrs o galchfaen wedi ei naddu â wyneb craig naturiol iddo. Mae’r fenestri, cerrig copa, rhagfuriau’r talcenni a thopiau’r bwtresi wedi eu llunio o dywodfaen. Mae ochr ddeheuol corff yr eglwys wedi ei blastro – hyn mae’n debyg er mwyn caniatáu ymestyn y corff i gydfynd rhywdro â’r cynllun gwreiddiol.
Mae nifer o nodweddion diddorol i’w gweld yma, yn arbennig yn y rhan orllewinol cynharach. Er enghraifft, y plac o dan ffenestr anghyffredin y talcen orllewinol yn wynebu Ffordd y Brenin sy’n coffáu gosod y garreg sylfaen gan Mrs Gamble ar yr 2ail o Dachwedd 1908. Mae’r cyntedd â’i borth deuddrws amlwg, wedi ei adeiladu o goed wedi eu naddu a’u gosod ar sail garreg. I’w gweld yno hefyd mae dull cynffonnog uniad y coed mwyaf, y pegiau sy’n cryfhau’r uniadau mortais a thyno, a meinciau ar y naill ochr a’r llall.
Yn uchel uwchben y cyntedd, yn agos at grib y to, mae cwb bach tlws sydd yn gartref i gloch yr eglwys.
Ar derfyn tir yr eglwys mae waliau calchfaen isel â meini capio sylweddol ar hyd eu topiau.
Mae pileri anferth o garreg a giatiau addurniadol i’r prif fynedfa ar gornel Ffordd Lansdowne a Ffordd y Brenin ac mae ail fynediad llai i’w gael ymhellach i’r dwyrain ar Ffordd Lansdowne.
Mae planhigion lliwgar gerddi’r eglwys yn arbennig o ddymunol ac yn cyfrannu llawer at harddwch lleoliad yr eglwys.
Ei thu mewn
Mae’r nenfwd pren agored wedi ei rannu’n chwe rhan, tra bo tri rhan i nenfwd y gangell. Mae llawr teils marmor i’r seintwar, a grisiau marmor ac mae’r côr wedi ei lunio o fyrddau pren ac wedi ei osod ar odre. Mae dodrefn y gangell wedi ei lunio o dderw gerfiedig ac yn cynnwys gwrthgefn, rheiliau allor a desg weddïo. Mae bedyddfan o dderw gerfiedig i’w gael mewn bedyddfa ym mhen dwyreiniol corff yr eglwys.
Y pulpud
Lluniwyd y pulpud o dderw ac er cof am John Joseph Latimer Jones, Offeriad a Ficer Bae Colwyn o 1923 i 1926. Mae arno gerflun cywrain o Sant Andreas yn dal y groes cytgroes sydd yn gysylltiedig ag o.
Y ffenestri gwydr lliw
Fe luniwyd y ffenestr ddwyreiniol, rhodd Mr a Mrs Campling, gan James Powell ac mae iddi pump cwarel. Yn y ddwy gwarel allanol mae lluniau Dewi nawddsant Cymru ac Asa nawddsant yr Esgobaeth. Mae’r tair yn y canol yn darlunio Iesu yn Emaus ar ôl ei atgyfodiad, ac yn gwneud ei hun yn hysbys i’r disgyblion wrth dorri bara.

Mae pum cwarel isaf y ffenestr fwaog, orllewinol a gyflwynwyd ar y 14eg o Fawrth 1963 yn rodd gan Mrs R Robinson, yn darlunio golygfa o Fôr Galilea. Mae Andreas, yn y canol, wedi derbyn yr alwad i ddilyn Iesu. Ar ei ochr dde mae Iago ac Ioan wedi gadael Sebedeus yn ei gwch ac ar fin gadael eu rhwydi er mwyn dod yn Ddisgyblion. Mae Pedr wedi ei ddarlunio ar ei eistedd yn parhau i weithio ar ei rwydi, heb eto wedi ei argyhoeddi.
Ar waelod pob cwarel mae’r symbolau sy’n cael eu defnyddio i gynrychioli’r disgyblion: mae gan Iago, y pellaf i’r chwith, wystrysen; mae gan Ioan bair; mae’r berth bigog â blodau coch yn berth issop, planhigyn cyffredin yng ngwlad Israel ac yn cynrychioli gras Duw; mae’r cawell cimwch yn cynrychioli Sant Andreas; ac wrth draed Pedr mae basged yn cynnwys tri physgodyn. Mae cefndir o wydr patrymog o’r Fflandrys i’r cwareli uwch ben. Yn y canol mae’r llythrennau IHS, sef tair llythyren gyntaf enw Iesu Grist. Ar y chwith a’r dde mae llythrennau cyntaf ac olaf y wyddor Groegaidd, sef Alffa ac Omega, sy’n nodi mai yng Nghrist mae dechrau a diwedd pob peth. Croes Sant Andreas ydi’r groes wen ar y cefndir cymylog, hynny ydi, croes ar batrwm yr un y croeshoeliwyd Andreas arni. Ar y dde mae arwyddlun Esgobaeth ac Esgob Llanelwy.
Yng nghanol ffenestr Sant Ffransis mae llun o Sant Ffransis ei hun yn y cwarel ganol yn dangos yr Archollnodau, gwahanol adar bach o gwmpas ei draed a choeden fawr werdd yn y cefndir. Yn y cwarel ar y chwith mae oen gydag aderyn mawr uwch ei ben a dau aderyn llai yn yr awyr. O du isa’r oen mae’r arysgrif “My little sisters study”. Yn y cwarel ar y dde mae mwy o anifeiliaid ac yn y gornel isaf mae dwy gath, Keri a Lucy, a oedd yn perthyn i’r ddwy chawer a roddodd y ffenestr er cof am eu chwaer.

Yn y ffenestr wydr lliw arall mae darlun o Iesu Grist yn bendithio. Ar gornel ei wisg mae’r llythrennau IHS. Ar gwarel chwith y ffenestr mae’r arysgrif “Jesus Christ the” uwchben lluniau o ddyn ar fagl, gwraig â baban yn ei breichiau, a merch ifanc. Ar gwarel dde’r ffenestr mae gweddill yr arysgrif, sef “Divine Healer”, sydd uwchben llun o fam a’i mab cloff, a dyn yn estyn ei ddwylo ac yn ymbil â gwraig glaf yn ei freichiau.
Gwybodaeth bellach: Gwefan yr eglwys
