Eglwys Undebol Sant Ioan, Ffordd Conwy

Mae Eglwys Sant Ioan wedi ei disgrifio fel un o ogoniannau pensaernïol tref Bae Colwyn ac fe ellid ei ystyried yn gadeirlan Wesleaid Saesneg arfordir gogledd Cymru. Mae hanes diddorol hefyd yngl?n â’i sefydlu a’i adeiladu.

Mae hanes cynnar yr eglwys yn troi’n bennaf o gwmpas dau ddyn – y Parchedig Ddr William Punshon a’r Parchedig Frederick Payne. Roedd y Dr Punshon yn un o ddynion amlycaf Methodistiaeth Wesleaidd yr 1870au ac y fo a ysbrydolodd y gwaith a’i ddechrau. Wedi i’r Dr Punshon farw’n gynamserol yn 1881, fe syrthiodd y dasg o gymryd y cynllun yn ei flaen a goruchwylio’r gwaith i’w gyfaill Frederick Payne. Y Parch. Payne oedd gweinidog y Rhyl ar y pryd ond roedd hefyd wedi ei benodi’n gennad arfordir y gogledd, y “North Wales Coast Missionary” yn 1879 gan Gynhadledd y Methodistiaid Wesleaidd. Roedd y Parchedigion Punshon a Payne eisoes wedi cydweithio ar sefydlu eglwysi Wesleaidd ar hyd arfordir y gogledd wrth i’r enwad fynd ati i ddarparu ar gyfer y twf yn y boblogaeth a oedd yn dod yn sgil troi ei phentrefi’n drefi gwyliau.

Dros gyfnod o bum mlynedd roedd y Dr Punshon wedi codi £10,000 ar gyfer cronfa’r “Watering Places Fund” a gyda chymorth y gronfa hon fe sefydlwyd eglwysi ym Mhrestatyn, y Rhyl, Llandudno a Bangor. Ond roedd y ddau wedi penderfynu mai ym Mae Colwyn y byddai’r prosiect mwyaf. Roedd hwn yn benderfyniad craff oherwydd ar y pryd doedd ond oddeutu 4,000 o drigolion yn y cylch, ond roedd Bae Colwyn i dyfu’n sylweddol ac fe gynlluniwyd St John’s i ddarparu ar gyfer anghenion ysbrydol a niferoedd y trigolion newydd.

Roedd y cynllun yn un uchelgeisiol, ac yn cynnwys eglwys, ysgoldy a mans ar yr un safle 2 acer – cyfuniad a oedd bron a bod yn unigryw o fewn yr enwad. Y pensaer oedd Robert Curwen, a’r adeiladwr oedd T. Foulkes, tad y pensaer nodedig lleol Sidney Colwyn Foulkes. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1881 ac erbyn dechrau 1883 roedd y mans a’r ysgoldy wedi eu hadeiladu a’r tir wedi ei agor ar gyfer sylfeini’r eglwys. Roedd y waliau terfyn a phorth y fynwent hefyd wedi eu cwblhau. Ac yna fe ddaeth yr arian i ben a bu’n rhaid atal y gwaith am bedair blynedd.

Roedd trigolion yr ardal yn cyfeirio at y lle fel “Wesley’s Folly” – efallai eu bod yn meddwl ei fod yn ffolineb i geisio adeiladu peth mor gymhleth a chrand ym Mae Colwyn. Serch hynny, rhoddodd y Parchedig Payne mo’r gorau i’r gwaith, ac wedi llawer o godi arian dygn iawn, fe gwblhawyd yr eglwys ei hun, o’r diwedd, yn 1888. Fe agorwyd hi ar gyfer gwasanaethau’r Pasg y flwyddyn honno a mawr oedd llawenydd a diolch y gynulleidfa.

Roedd tu mewn yr eglwys yn ei dyddiau cynnar yn llawer mwy trawiadol nag ydi o ar hyn o bryd. Ar y bwa canol uwchben corff yr eglwys roedd y geiriau “Holy, Holy, Holy, Lord God of Hosts” wedi eu gosod mewn llythrennau bras, ac ar y paneli ochr uwchben gwrthgefn yr allor roedd y Deg Gorchymyn a’r Gwynfydau. Roedd y rhain wedi eu llunio o lythrennau mawr aur, coch a glas a byddai eu heffaith gweledol wedi bod yn drawiadol.

Cafwyd mwy o adeiladu yn 1907, pan gafodd yr ysgoldy ei ymestyn, er mwyn creu parlwr i’r merched a chegin, sydd wedi ei gwella ymhellach yn ddiweddar. Ar y safle hefyd roedd y cartref ymadfer cyntaf i weinidogion Wesleaidd, sef Edenfield, er nad oedd hwn yn rhan o ddatblygiad adeiladau St John’s.

Mae cysylltiad cryf wedi bod o’r dechrau rhwng Sant Ioan ac addysg Gristnogol. Ar wahân i’w waith yn trefnu adeiladu Sant Ioan, roedd gan y Parchedig Payne rhan fawr yn y gwaith o sefydlu  ysgol Penrhos College i ferched 1880 ac ysgol Rydal i fechgyn yn 1885, y ddau ohnyn nhw’n sefydliadau Wesleaidd ym Mae Colwyn. Fe fu disgyblion y ddwy ysgol yn mynychu gwasanaethau yn St John’s hyd nes yr agorwyd capel Penrhos College yn 1925 (mae erthygl ar wahân yn trafod capel Penrhos College).

Mae’n debyg bod y bechgyn a’r merched yn mynd ac yn dod i’r capel drwy giatiau gwahanol, fel na fyddai unrhyw berygl o gyfarfod y naill â’r llall! Fe wyddwn ni hyn oherwydd cofnod o lythyr a anfonwyd at brifathro ysgol Rydal gan brifathrawes ysgol Penrhos yn cwyno bod y bechgyn, un dydd Sul, wedi dod i mewn drwy’r giât anghywir. Yn anffodus i ni, does dim cofnod o ateb prifathro ysgol Rydal!

Fel tystiolaeth pellach o gryfder y cysylltiad gyda’r ysgolion, mae yna ddwy ffenestr wydr lliw yn Eglwys Sant Ioan i goffáu dau o’r prifathrawon. Mae’r ffenestr yng nghor yr aden ogleddol yn coffáu’r Fns. Rosa Hovey, a oedd yn brifathrawes Penrhos College am 34 o flynyddoedd, tra bo’r ffenestr wydr lliw uwchben yr allor wedi ei osod er cof am T G Osborne – sefydlwr a phrifathro cyntaf ysgol Rydal. Mae’r cysylltiadau cryfion hyn wedi parhau hyd heddiw ac mae’r eglwys yn cael ei ddefnyddio gan ei haelodau a gan ysgol Rydal Penrhos, sy’n defnyddio’r eglwys ar gyfer ei gwasanaethau beunyddiol a’i hadeiladau ategol ar ar gyfer gweithgareddau eraill.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd angen chwech neu saith o wasanaethau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y rhai a oedd wedi eu symud yno o Lundain, angen a dyfodd ymhellach eto’n ddiweddarach yn sgil lletya milwyr o Ganada a’r Unol Daleithiau yn yr ardal.

Mae nifer o fawrion Methodistiaeth Wesleiaidd wedi pregethu yn St John’s, y Dr. Sangster, y Dr. Leslie Weatherhead, a’r Arglwydd Soper er enghraifft, ynghyd â nifer dirifedi o arlywyddion y Gynhadledd Fethodistaidd. Yn 1963 fe gafodd y gynulleidfa’r fraint o glywed cyflwyniad gan Gladys Aylward, y genhades i Tsieina a anfarwolwyd yn y ffilm “The Inn of the Sixth Happiness”.

Yn fwy diweddar mae cynulleidfa’r eglwys wedi croesawu aelodau’r Eglwys Undebol i’w plith, ac fe adlewyrchwyd hyn yn newid yr enw i “St John’s Uniting Church” (Eglwys Gyfunol Sant Ioan).  Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r eglwys wedi peidio â darparu gwasanaethau ac mae ei dyfodol ar gyfer y tymor hir yn ansicr.

Pensaerniaeth

Mae Eglwys Sant Ioan, sy’n Adeilad Rhestredig Gradd 2, wedi ei chodi ar safle amlwg ar gornel Ffordd Conwy a Rhodfa Pwllycrochan. Mae ei th?r tal urddasol yn nodwedd amlwg o ran yma’r dref, yn arbennig wrth i rywun gyrraedd canol y dref o gyfeiriad Mochdre neu wrth edrych i gyfeiriad yr eglwys o’r gerddi cyfagos, Gerddi’r Frenhines.

Mae Sant Ioan yn adeilad sylweddol a mawreddog gyda chryn bresenoldeb. At ei gilydd mae’r eglwys, yr ysgoldy, porth y fynwent a’r waliau terfyn yn ffurfio cyfanwaith diddorol sydd yn cyfrannu’n sylweddol i olwg a chymeriad y rhan yma o Fae Colwyn.

Adeiladwyd waliau’r eglwys o ddarnau bach o wenithfaen amlochrog ar odre tywodfaen a sylfaen o galchfaen. Mae ganddi do llechi a theils crib cochion. Ar bob ochr i gorff yr eglwys mae estyll ategol culion. Mae ganddi hefyd ale groes a seintwar cromfannol yn y pen dwyreiniol.

Os byddwch yn edrych ar yr eglwys o gyfeiriad Rhodfa Pwllycrochan, mi fyddwch yn gweld y t?r a’i feindwr uchel. Mae’r meindwr, sy’n feindwr broch, wedi ei adeiladu o dywodfaen. Sylwch ar batrwm y cynllun, gyda’i rhesi llydan o feini nadd llyfn wedi eu gosod am yn ail â meini â wyneb craig naturiol. Mae gan y tr ei hun fwtresi calchfaen a gwenithfaen, y rheiny wedi eu capio â meini tywodfaen, ac awyrdyllau dellt a ffenestri wedi eu addurno â thywodfaen. Sylwch hefyd ar ei ddrysau dwbl â’u colfachau strap a’r bwa o’u cwmpas gyda’i fowldio cywrain yn codi i big. Ymhlith y nodweddion diddorol eraill sydd i’w gweld o’r ochr hwn mae’r ysgoldy sy’n sownd i’r eglwys, y meindwr wythochrog â’i awyrdyllau dellt pedairdalennog, a’r llechi siâp cennau pysgod. 

Os ewch chi’n ôl at gyffordd Ffordd Conwy a Rhodfa Pwllycrochan cymerwch olwg ar borth y fynwent a’i addurniadau cywrain, hwn hefyd wedi ei gynllunio, mwy na thebyg, gan Robert Curwen. Mae’r porth, hefyd yn Adeilad Rhestredig Gradd 2, wedi ei adeiladu o wenithfaen a thywodfaen gyda mynediad bwaog wedi ei fowldio a giatiau sy’n cynnwys gwaith haearn addurnedig. Ar bob ochr i’r mynediad mae bwtresi sy’n codi i binaclau. Mae arysgrif i’w weld ar ddwy ochr y porth, ond maen o wedi treulio gryn dipyn erbyn hyn ac yn anodd ei ddarllen.

Ar ochr ogleddol yr eglwys mae porth mynediad mawr gyda drws mawr byrddau pren a cholfachau strap o waith coeth. Mae yna dair cilfach rhwng y porth ac ochr ogleddol yr ale groes. Mae dwy ffenestr yn llenwi rhan helaeth o dalcen yr ale, a ffenestr gron uwch eu pen.

Mae’r waliau terfyn o galchfaen a gwenithfaen ac yn amgylchynnu’r fynwent. Mae top y waliau’n codi nawr ac yn y man a chilfachau pigfain i’w cael yno o dan y cerrig copa. Mae pileri mawrion wrth fynedfeydd y fynwent ond yn anffodus mae’r giatau wedi eu tynnu a’u symud oddi yno. Mae’r coed ffawydd ger Rhodfa Pwllycrochan yn dod ag awyrgylch gwledig, coedog i ran hon y dref.

Ein diolch i L. Colin Williams am gael defnyddio ei waith ymchwil i hanes Eglwys Sant Ioan.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group