Adeiladwyd ym 1902 gan Synod Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg fel eglwys allgymorth cenhadol fel cangen o Engedi yn Ffordd Coetir, fe’i gelwid yn Gapel Rhiw neu “y capel ar y bryn”.
Ym 1908 daeth yn eglwys annibynnol o Engedi, ond yn raddol bu i nifer yr aelodau leihau yn raddol a bu’r capel yn wag am rai blynyddoedd tan 1935 pan brynwyd gan yr Undeb Hen Fedyddwyr am £675.
Ffurfiwyd y grŵp Bedyddwyr yn 1908 ac mi fyddent yn addoli yn flaenorol yn Neuadd Maes Glas, yna ysgol yn Ffordd Douglas, ac am 9 mlynedd arall yn 90, Ffordd Abergele.

Cafodd gwasanaeth cyntaf y Bedyddwyr ei gynnal ar 7fed Medi, 1935 pan ail-enwid y capel yn “Ebeneser”, sy’n golygu “mae’r Arglwydd wedi’n helpu ni hyd yma”.
Yn y 1980au cafodd yr enw ei newid unwaith eto i Eglwys y Bedyddwyr Woodhill, gan ddisgrifio ei leoliad.
Erbyn hyn mae cynulleidfa lewyrchus ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae eglwysi cenhadol wedi eu sefydlu yn Llandudno a Llanfairfechan.
Pensaerniaeth
Adeilad cymharol blaen ydy hwn gyda’r islawr wedi ei gwneud o garreg, y brif ran o friciau coch a’r to o lechi gyda theils crib plaen. Mae’r talcen blaen sy’n wynebu’r dwyrain ar Ffordd Rhiw wedi’i ddylunio ar ffurf gymesurol, gyda dwy ffenestr i ochrau’r cyntedd a gyda thair ffenestr uchod. Mae plac yn y cyntedd ond nid oes arysgrif. Mae ochrau’r adeilad wedi eu haddurno’n syml, er bod y bandiau bric uwch ben y ffenestri’n ychwanegu ychydig o addurn.
Mae’r ochr sy’n wynebu Ffordd Woodhill hefyd yn syml ac yn blaen – bwtresi briciau gyda chapiau tywodfaen sy’n rhannu’r drychiad yn dri bae, pob bae gyda dwy ffenestr ddellt syml.
Mae mynediad i’r capel o Ffordd Woodhill, wedi ei farcio gan byst giât tywodfaen a gatiau, yna i fyny ramp i’r cyntedd.
