Capel Tabernacl, Ffordd Abergele

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf y Bedyddwyr Cymraeg yn yr ardal yn Hen Golwyn, yn Church Walks, mewn lle y bu iddyn nhw gytuno’n ddiweddarach i’w rannu gyda’r Bedyddwyr Saesneg.

shiloh chapel

Adeiladwyd Capel Tabernacl ar ochr ogleddol Ffordd Abergele (cyferbyn â Ffordd Douglas) yn 1888 ac fe’i ddefnyddiwyd gan y gynulleidfa Gymraeg a’r gynulleidfa Saesneg.

Fe gostiodd y capel, yr ysgoldy a’r ystafelloedd atodol £1800 i’w hadeiladu. Ychwanegwyd y t? capel yn 1890 ar gost o £126.

Yn 1891 fe ddechreuodd y gynulleidfa Saesneg godi arian ar gyfer eu hadeilad eu hunain, gan symud yn gyntaf i safle ar Ffordd Abergele ger Ffordd Erw Wen ac yna yn 1913 i’w hadeilad presennol ar Princes Drive. O hynny ymlaen, capel ar gyfer y Cymry’n unig oedd Tabernacl.

Mae Ystadegau Comisiwn Eglwysi Cymru ar gyfer yr eglwysi anghydffurfiol yn 1905 yn nodi bod gan Tabernacl 223 o aelodau.

Ar Hydref y 10fed 1920 fe fu i Lloyd George, Prif-weinidog Prydain ar y pryd, ymweld â Thabernacl. Mae’n debyg iddo ddweud ar ôl clywed pregeth y Parch. J. S. Jones, “Cyffyrddwyd fy nghalon gan rym y pulpud Cymreig”.

Mae capel Tabernacl wedi bod yn lleoliad tri gwasanaeth dinesig. Cynhaliwyd y cyntaf yn 1965 pan oedd y Fns. D. B. Jones yn Faer Cyngor Colwyn, a’r ail a’r trydydd yn 1985 ac 1987 pan oedd y Br. John Hughes Llangernyw a’r Br. John Jones Llanfairtalhaearn yn Feiri Cyngor Bwrdeistref Colwyn.

Fe ddathlodd capel Tabernacl ei ganmlwyddiant ar Hydref y 1af 1988.

Dyma restr o weinidogion y capel:

Y Parch. William Hughes

Y Parch. William Hughes oedd gweinidog cyntaf Tabernacl ac roedd hefyd yn gofalu am gapeli Llanelian a Hen Golwyn a chynulleidfa Bedyddwyr Saesneg Bae Colwyn.

Rhwng 1882 ac 1885 roedd y Parch. William Hughes wedi bod yn gennad yn y Congo a phan ddaeth yn ei ôl i Gymru fe ddaeth â dau fachgen efo fo, Nkanza and Kinkasa. Ei fwriad oedd  i agor sefydliad hyfforddi yn Ffordd Nant y Glyn ar gyfer myfyrwyr o’r Congo a llefyd eraill yn Affrica. Yr amcan oedd i ddysgu crefft iddyn nhw a fyddai’n amgylchiadau eu pobl pan fydden nhw’n dychwelyd i Affrica. Enw’r sefydliad yn ei ddyddiau cynnar oedd Congo House, a newidiwyd yn ddiweddarach i Congo House Training Institute ac yna i African Training Institute. Erbyn 1894 roedd yna 15 o fyfyrwyr yn y Congo Institute a pharhaodd y Congo Training Institute mewn bodolaeth hyd at 1912 gan roi addysg a hyfforddiant i bron i 90 o fyfyrwyr Africanaidd.

Erbyn 1910 roedd sefyllfa ariannol yr Institute yn fregus, ond roedd gwaeth i ddod yn 1911 pan ddechreuodd y cylchgrawn “John Bull” gyhoeddi erthyglau am William Hughes a’r Institute. Roedd yr erthyglau’n dwyn penawdau megis “A Baptist Mission Scandal” a “Black Baptist’s Brown Baby” ac o’u herwydd fe ddygodd William Hughes achos enllib yn erbyn y cylchgrawn. Ond fe gollodd yr achos, ac fe’i adawyd yn fethdalwr. Bu’n rhaid iddo werthu’r Institute a meddyliodd am ddychwelyd i Affrica.

Ond yn wyrcws Conwy y bu farw’r Parch. William Hughes yn 1924. Ac, yn dilyn gwasanaeth yng nghapel Tabernacl a arweiniwyd gan y Parch. Lewis Valentine ymysg nifer o rai eraill, fe’i claddwyd ym mynwent Hen Golwyn yng nghwmni aelodau ei deulu a rhai o fyfyrwyr y  Congo Institute.

Y Parch. Edward Colwyn Evans

Olynwyd Y Parch. William Hughes yn 1892 gan y Parch. Edward Colwyn Evans, un a anwyd yn Hen Golwyn. Bu farw’n sydyn ar y traeth ym Mae Colwyn yn 1894, yn 49 mlwydd oed.

Y Parch. David Henry Rees

Fe ordeiniwyd y Parch. David Henry Rees yn Nhabernacl yn 1897. Am ddwy flynedd yn unig y bu’n gweinidogaethu ym Mae Colwyn, ond yn yr amser hwnnw fe ddyblodd aelodaeth y capel a chlirio’r ddyled o £900 a oedd angen ei dalu ar yr adeilad.

Y Parch. Peter Jones

Fe ddaeth y Parch. Peter Jones, a oedd wedi ei ordeinio yng nghapel Bousfield Street Lerpwl yn 1893, yn weinidog Tabernacl yn 1902 a gweini yno am 14 blynedd.

Y Parch. John Samuel Jones

Ar ôl y Parch. Peter Jones fe ddaeth y Parch. John Samuel Jones yn 1919. Bu’n weinidog ar y capel am 30 mlynedd.

Y Parch. Caradog Owen

Fe ddaeth y Parch. Caradog Owen i’r Tabernacl yn 1951 ac aros am 5 mlynedd.

Y Parch. Idris Treharne Davies

Fe gofir y Parch. Idris Treharne Davies, y gweinidog o 1957 hyd at 1961, am sefydlu clwb i blant y capel ac hefyd “Urdd y Seren Fore”. Yn ystod y cyfnod hwn fe gynyddodd aelodaeth yr Ysgol Sul hefyd.

Y Parch. William Williams

Fe ddaeth y Parch. William Williams yn weinidog ar Tabernacl yn 1964 pan symudodd i Fae Colwyn o gapel Upper Brook Street ym Manceinion. Bu farw yn 1982 a chynhaliwyd ei wasanaeth coffa yn Nhabernacl dal ofal y Parch. Lewis Valentine.

Y Parch. Gwilym Hughes

Bu’r capel heb weinidog am bron i 10 mlynedd ar ôl marwolaeth y Parch William Williams. Yna ar Dachwedd y 1af 1991 fe groesawyd y Parch. Gwilym Hughes a oedd eisoes â chynulleidfa yn Abergele i fod yn weinidog ar Tabernacl hefyd.

Yr organ

Gosodwyd yr organ, a wnaethpwyd yn 1924 gan gwmni Rushworth & Draper, yn y capel yn 1937.

Y Br. J. Eryl Owen-Jones a gafodd hyd i’r organ. Roedd yn glerc i gwmni o dwrneiod lleol ac yn trafod ewyllys y diweddar Edward Blackburn, perchennog ffatri gotwm ym Manceinion ac a fu’n byw yn niwedd ei oes ym Mryn Eisteddfod, Glan Conwy. Bu farw Edward Blackburn yn 1936 ac fe ddarganfuwyd organ a oedd wedi ei adeiladu gan Rushworth & Draper yn ystafell gerdd ei gartref yng Nglan Conwy. Yn dilyn ymweliad â’r t? gan aelodau’r capel, i weld a chlywed yr organ, fe’i prynwyd. Cafwyd y cyflwyniad cyntaf arni yn Nhabernacl ar Fehefin y 9fed 1937 gan organydd Cadeirlan Bangor, Leslie D. Paul.

Pensaerniaeth

Mae talcen flaen y capel yn wynebu’r ffordd ac wedi ei adeiladu o dywodfaen. Mae’r wal flaen yn cynnwys bwtresi ar bob ochr, dau set o ffenestri bwaog, nodweddion teirdalen uwch ben y ffenestri, a’r ffenestr pumnalen yn y talcen, a charreg ddiddos fwaog.

Mae’r to llechi ategol ar y blaen yn nodwedd anghyffredin a drysau’r porth yn rhai syml o fyrddau pren. Uwch ben y drysau mae ffenestr lintar gydag enw’r capel wedi ei baentio arni. Ar bob ochr i’r porth mae tair ffenestr fach.

Sylwch ar y wal flaen yr wyth carreg coffa, pob un wedi ei ddyddio Mawrth y 6ed 1888 ac yn dwyn enw gw?r pwysig y capel ac o le roedden nhw’n dod – Llandudno, Seacombe, Pwllheli, Rhyl a Bae Colwyn. Yn eu mysg mae Aelod Seneddol Ynys Môn.

Mae waliau ochr y capel yn ddiaddurn.

Mae’r to llechi â’i deils crib coch yn ddigon diddorol – sylwch yr awyrdyllau ar y grib a’r awyrdyllau dellt mewn bargodau bychain yn is i lawr.

Mae’r giat i’r capel yn un addurnedig ac wedi ei osod yn y wal tywodfaen sy’n amgylchynu’r capel.

Ffynnonellau:

Undeb Bedyddwyr Cymru: Cylch Cantref y Rhos: Thema: Pobl y Ffordd: Gorffennaf 25-29, 1999.

Draper, Christopher & Lawson-Reay, John: Scandal at Congo House: William Hughes and the African Institute, Colwyn Bay. Gwasg Carreg Gwalch: November 2012: 9781845274009.

Hughes, William: Dark Africa and the Way Out: 1892.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group