Eglwys Babyddol Sant Joseff, Ffordd Conwy

Yn ei dyddiau cynnar roedd Bae Colwyn yn rhan o Ardal Cenhadu Pabyddol Llandudno a oedd hefyd yn cynnwys trefi Conwy, Llanrwst a Phenmaenmawr.

Yn 1895 roedd oddeutu cant o Babyddion yn ardal Bae Colwyn a’r offeren yn cael ei weinyddu mewn t? ar Ffordd Rhiw. Byddai offeren y Sul yn cael ei weinyddu mewn ystafell fawr yng ngwesty’r Imperial.

Roedd 1898 yn flwyddyn bwysig yn hanes Cenhadaeth Bae Colwyn. Ym mis Ionawr y flwyddyn honno, ar wahoddiad yr Esgob, fe fu i’r urdd offeiriadol, Obladiaid Mair Difrycheulyd, gymryd gofal o’r Genhadaeth. Mae’r urdd yn weithgar yn y plwyf hyd heddiw.

Roedd Bae Colwyn, wrth gael ei datblygu’n dref gwyliau glan môr, yn tyfu ac o’r herwydd fe benderfynwyd bod angen adeiladu eglwys. Rhoddwyd yr arian ar gyfer y gwaith gan y Monsignor James Lennon o swydd Gaerhirfryn er cof am ei frawd y Deon John Lennon. Roedd yr eglwys newydd i’w chysegru i Sant Joseff ac i fod yn lle agored, llawn goleuni ac o ddigon o faint i ddarparu ar gyfer y Pabyddion lleol a’r nifer fawr a oedd yn dod i Fae Colwyn fel ymwelwyr.

Prynwyd y tir ar ei chyfer oddi wrth y ‘Colwyn Bay and Pwllychrochan Estate Company’. Gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Esgob, y Dr. Francis Mostyn ar Awst y 10fed 1898 ac fe’i hagorwyd a’i bendithio ganddo ar Fehefin y 3ydd 1900, sef Sulgwyn y flwyddyn honno.

Mae datblygiadau cysylltiedig â datblygiad yr eglwys yn cynnwys y cwfaint a agorwyd gerllaw yn 1905, a’r ysgol gynradd babyddol a godwyd ar dir cyfagos yn 1933.

Pensaerniaeth

Mae eglwys St Joseph’s wedi ei chodi mewn lle amlwg ar gyrion gorllewinol canol y dref ac fe’i dyluniwyd hi gan R Curran.

Mae waliau’r eglwys wedi eu hadeiladu o dywodfaen melyn, gyda thywodfaen coch o gwmpas y drws a’r ffenestri, ar dopiau’r bwtresi ac yn rhes linyn y muriau. Mae nenfwd corff yr eglwys wedi ei oleuo gan gyfres o ffenestri o du ucha toeau ategol yr ystlysau. Mae’r ddau ystlys, ar yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol wedi eu cynnal gan fwtresi, a rhwng y bwtresi mae’r ffenestri sy’n rhai plaen bwaog gyda dellt plwm i gynnal y cwareli.

Mae yna d?r yng nghornel ogledd-orllewinol yr eglwys, un isel sydd o bosib heb ei gwblhau. Mae prif fynediad yr eglwys drwy waelod y t?r ac wedi ei addurno gyda thywodfaen nadd coch. Mae colfachau strap y drysau hefyd yn rhai addurnol. Mae mynediad arall yn cynnwys pedwar piler marmor i’w gael hefyd ym mhen gorllewinol yr eglwys o dan y ffenestr fawr.

Ymysg y nodweddion diddorol eraill mae’r talcen crwn a’i baneli gwydr lliw ym mhen dwyreiniol yr eglwys a’r cerflun o Sant Joseph yn y t?r uwchben y prif fynediad.

Hefyd yn ddiddorol ydi’r Seintwar a’r Allor, Gorsafoedd y Groes, y Bedyddfa a’i ffenestr. Mae o’n werth cymryd golwg ar y ffenestri gwydr, y rhai traddodiadol a’r rhai modern. Hefyd yn werth ei sylwi ydi’r Gofeb i’r Deon John Lennon a’r Parchedig Monsignor James Lennon.

Ar wahân i’r waliau terfyn ar Ffordd Conwy a Rhodfa Brackley, ni wnaed unrhyw ddefnydd o’r calchfaen lleol.

Mae tir a gerddi’r eglwys yn daclus ac yn ychwanegu at ei harddwch – nodwedd sydd yn gyffredin i nifer o addoldai Bae Colwyn.

Gwybodaeth bellach:

Gwefan Eglwys St Joseff

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group