Capel Shiloh, Ffordd Maes Glas (siop Coastal Ceramics nawr)

Adeiladwyd capel Wesle cyntaf yr ardal ym Mron y Nant yn 1809, naw mlynedd ar ôl i’r enwad ddechrau cenhadu yng Nghymru, ac yn 1832 fe ddechreuwyd achos ym Mhen y Bryn Hen Golwyn.

Erbyn dechrau’r 1870au roedd gwaith wedi dechrau ar adeiladu rhai o dai Ffordd yr Orsaf, ynghyd â gwesty’r Colwyn Bay Hotel sydd bellach wedi ei ddymchwel. Gyda’r gwaith fe ddaeth gweithwyr, llawer ohonyn nhw’n preswylio yn yr ardal dros gyfnod eu gwaith (ac o bryd i’w gilydd yn setlo hefyd) ac roedd galw felly am lefydd iddyn nhw addoli.

Erbyn 1871, roedd y gweinidogion Wesle, y Parch. John Cadfan Davies Hen Golwyn a’r Parch. Thomas Morris, yn credu bod angen achos newydd. Felly, gyda chefnogaeth capeli Bron y Nant a Hen Golwyn, fe ddechreuodd y ddau gynnal gwasanaethau yn nhref Bae Colwyn. Cynhaliwyd rhai o’r gwasanaethau yng nghartref Mr. a Mrs. Roberts Sea View Villa ond fe ddaeth rhain i ben pan symudodd rhai o’r gweithwyr i ffwrdd. Fodd bynnag fe ailsefydlwyd yr achos ac yn 1873 roedd ganddyn nhw ystafell gyfleus i gynnal gwasanaethau yng nghartref Mr Robert Roberts, oedd â th? a siop yn Ffordd yr Orsaf. Ar ôl hynny fe gynhaliwyd gwasanaethau yn un o’r cytiau gwaith.

Erbyn 1875 roedd aelodau’r eglwys yn teimlo bod angen lle mwy addas ar gyfer eu haddoli ac fe benderfynwyd cael darn o dir ar gyfer capel bach. Fe brynwyd tir ar Ffordd Greenfield ar gost o £122, ac fe adeiladwyd capel yno, un bychan a agorwyd yn 1876. Fodd bynnag, erbyn canol yr 1880au roedd pologaeth y dref a chynulleidfa’r capel wedi tyfu, ac fe benderfynwyd ailwneud ac ehangu’r capel. Yn ystod cyfnod yr addasu fe fu’r aelodau’n addoli dros dro yng nghapel yr Annibynwyr. Agorwyd y capel ar ei newydd wedd, a gydag enw newydd, Shiloh, ym mis Mehefin 1888. Fe barhaodd y gynulleidfa i dyfu ac fe symudwyd i Horeb ar Ffordd Rhiw yn 1898.

Gwerthwyd Shiloh i’r Wesleaid Saesneg 1899 am £850, er mai £900 oedd y pris a ofynwyd amdano. Fe’i ddefnyddiwyd  ganddyn nhw nes bod eglwys Nant y Glyn ar ei draed. Pan symudodd yr achos i Nant y Glyn roedd cynulleidfa o oddeutu 170.

Gwerthwyd Shiloh ac fe’i ddefnyddiwyd yn y lle cyntaf fel ffatri pacio wyau. Ar hyn o bryd mae o’n siop deils.

 Pensaerniaeth

Mae Shiloh wedi ei leoli ar ochr orllewinol Ffordd Greenfield, heb fod ymhell o’r gyffordd â Ffordd Abergele. Mae o wedi ei adeiladu o galchfaen gyda tho llechi a theils crib cochion. Mae’r wal amlycaf, sy’n wynebu tua’r dwyrain a Ffordd Greenfield, wedi ei godi o gerrig nadd calchfaen sydd i’w gweld ar y talcen ac uwchben y ffenestri ar y llawr cyntaf. Ychydig iawn o dywodfaen a ddefnyddiwyd a hynny o gwmpas, er enghraifft, y ffenestri.

Mae’r porth sydd i’w weld yno heddiw yn fwy diweddar na chorff y capel. Mae tair ffenestr uwchben y porth, yr un ganol â thop gwastad, a’r rhai bob ochr â thopiau crynion. Un o’r nodweddion mwyaf diddorol ac anghyffredin ydi’r cregyn cerfiedig hanner crwn uwchben y ffenestri.

Ffynonellau

Norman Jones – United Reform Church and Baptists, Colwyn Bay 1887- 1987

Norman Tucker – Colwyn Bay, its origin and growth.

Anthony Spencer

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group