Eglwys Sant Paul, Ffordd Abergele

Eglwys hanesyddol Llandrillo yn Rhos oedd eglwys wreiddiol y plwyf, ac erbyn hyn yn eiddo i’r Eglwys (Anglicanaidd) yng Nghymru. Ond gyda datblygu Bae Colwyn a’r twf yn y boblogaeth roedd angen adeilad agosach i’r dref. Mae yna fap o Fae Colwyn yn 1865 sy’n nodi “intended site for church”, safle arfaethedig eglwys. Dyma safle’r eglwys bresennol, bellach Saint Paul’s, ond nid yr un cyntaf i’w hadeiladu yno, er ei fod yn ymddangos iddi fod yno ers blynyddoedd lawer.

st pauls church

Bu’r gynulleidfa’n cyfarfod i ddechrau mewn gweithdy saer coed yn Ivy Street. Roedd hwnnw’n sefyll lle mae’r maes parcio heddiw. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yno ar Fehefin y 18fed 1871. Blwyddyn yn ddiweddarach fe godwyd ystafell genhadol ar safle’r eglwys bresennol. Agorwyd yr ystafell gan yr Esgob Hughes ar benblwydd cynnal y gwasanaeth cyntaf yng ngweithdy’r saer.

Yna codwyd eglwys sinc dan yr enw New Colwyn Mission Chapel ar y safle, a’i agor ar Fehefin y 23ain 1880. Chwe blynedd y ddiweddarach, ar Hydref y 31ain 1886, fe’i losgwyd i’r llawr. Rhoddwyd y bai ar ymgyrchwyr Rhyfel y Degwm o Fochdre, pobl yr oedd y Ficer William Venables-Williams wedi bod yn hallt iawn ei feirniadaeth ohonyn nhw. Symudwyd y gwasanaethau i’r Neuadd Gyhoeddus, sef Theatr Colwyn erbyn hyn. Gyda bod yr eglwys sinc wedi ei ddinistrio roedd gofyn am eglwys newydd a chyfle i godi un gwell, parhaol, carreg. Dyna a wnaethpwyd.

Yn y cyfamser fe aeth Esgob Llanelwy ati yn 1888 i greu plwyf eglwysig Bae Colwyn, a hynny gyda chefnogaeth frwd William Venables-Williams, a fyddai’n ficer cyntaf y plwyf newydd tra’n parhau yn Ficer Llandrillo yn Rhos hefyd. Fodd bynnag, pan fynnodd yr Esgob benodi ficer newydd ar gyfer y plwyf newydd, fe surodd William Venables-Williams a throi’n wrthwynebydd i’r cynllun i rannu’r plwyf.

Fe aeth â’i wrthwynebiad cyn belled â Senedd San Steffan a chyflwynodd yno ddeiseb ag arni 582 o enwau. Bu iddo ysgrifennu hefyd at y Frenhines Victoria, ond i ddim pwrpas, ac yn 1893 fe sefydlwyd plwyf eglwysig Bae Colwyn yn swyddogol.  O fewn dyddiau i gyhoeddi Gorchymyn y Cyngor Eglwysig fe gyhoeddodd William Venables-Williams lythyr agored yn dweud mor ddig a chwerw roedd o yngl?n â’r penderfyniad. (Mae mwy o wybodaeth am y Ficer Venables-Williams a’i gyfraniad i ddatblygiad Bae Colwyn yn yr erthygl ‘Pobl Bae Colwyn’).

Adeiladwyd yr eglwys bresennol mewn sawl cam:

  • ar Orffennaf y 13eg 1888 fe gysegrwyd ei chorff eang pum cilfach, ei ystlysau culion a’i hale groes
  • ar Ebrill y 7fed 1895 fe gysegrwyd y gangell, y côr a’r seintwar yn y pen dwyreiniol (a luniwyd, mae’n debyg, yn ôl y cynllun gwreiddiol o 1887)
  • ar Dachwedd y 12fed 1911 fe gysegrwyd y t?r, y cloc a’r gloch tunnell a chwarter
  • ac yn 1922 fe gysegrwyd y Capel Coffa er cof am y rhai a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf lle cofnodwyd eu henwau a gosodwyd dwy ffenestr er cof am gyn-ddisgyblion ysgol Dinglewood a gollwyd yn y rhyfel hwnnw.

Mae’r tir sydd i’w weld heddiw yn wahanol i’r un a fwriadwyd ei godi, a oedd i gynnwys meindwr.

Cafwyd addasiadau eraill hefyd, yn cynnwys ailadeiladu’r organ yn 1960 pan symudwyd y trawfwrdd i ochr ddeheuol yr ale groes. Bellach mae 56 milltir o wifren deleffon yn cysylltu’r allweddell â chorff yr organ. Yn 1980 fe ailwampiwyd yr eglwys yn llwyr. Gosodwyd carped, system wresogi dan y llawr, ac yn 1987, pan ailsefydlwyd y côr fe roddwyd goleuadau ar seddi’r côr.

Yn ystod 2024 cafodd gwaith ei wneud yn yr eglwys.

Pensaerniaeth

Mae eglwys St. Paul’s yn sefyll mewn lle amlwg yng nghanol y dref, ac yn lle gwyrdd mewn ardal ddwys iawn ei hadeiladau. Mae hi’n enghraifft arbennig o hardd o waith John Douglas (1830-1911) pensaer adnabyddus ac uchel ei barch o Gaer y mae ei waith i’w weld drwy ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac yn lleol yn Hen Golwyn a Bryn y Maen.

Mae’r eglwys wedi ei hadeiladu o galchfaen lleol gydag addurniadau cyferbyniol o dywodfaen coch Runcorn. Mae ganddi do o lechi lled-wyrdd sydd yn lleihau o ran eu maint wrth fynd yn uwch i fyny’r to. Mae cyfuniad crefftus y ddau fath o garreg, y llwyd a’r coch, i’w weld ymhob un o’r waliau ac ar y t?r. Defnyddiwyd y dywodfaen ar gyfer rhagfuriau’r talcenni, rhesi gwaelod y muriau, a fframiau’r ffenestri a’r drysau.

Sylwch y ffenestr fawr yn y wal ddwyreiniol yn wynebu Ffordd Rhiw, y dyddiad 1894 ar y gangell a’r ffenestr pedeirdalen ar ochr ogleddol y pen dwyreiniol.

Ar yr ochr ogleddol mae yna fwtresi’n rhannu’r corff a’r ystlys yn gilfachau. Mae plac ar yr ochr ogleddol yn nodi blwyddyn 1887 ac enwau’r ficer, Wm. Venables Williams, a wardeiniaid yr eglwys John Porter a Daniel Allen.

Mae’r t?r bwtresog amlwg a sylweddol yn dyddio o 1910-11 ac mae yntau hefyd wedi ei godi o galchfaen a thywodfaen coch. Y twr hwn oedd gwaith olaf John Douglas ac ni welodd ei orffen cyn ei farw. Mae pob un o waliau’r twr yn wahanol. Mae’r mynediad ar ffurf bwa lydan yn yr ochr ddwyreiniol â cherflun uwch ei ben ac yn arwain drwy giatiau at borth agored. Sylwch y garreg goffa â’r dyddiad Medi’r 29ain 1910 arni.

Mae cynllun yr eglwys yn un hynod syml. Ar yr ochr ogleddol mae cangell, siambr i’r organ a chapel. Ar yr ochr ddeheuol mae dau festri, un i’r offeiriaid ac un i’r côr. Prif nodwedd corff yr eglwys ydi ei fod yn lle neilltuol o ‘agored’. Mae’r arddull yn syml a’r defnydd adeiladu’n galchfaen lleol a thywodfaen coch Helsby. Wrth symud i ben dwyreiniol yr eglwys rydym yn cyrraedd y gangell a’r côr. Uwchben yr allor mae’r gwrthgefn wedi ei gerfio i gynllun Mr Caroe gan gwmni’r Mri. Boulton o Cheltenham. Mae’r darlun yn cyflwyno cyfarfyddiad Iesu a’r disgyblion ar y ffordd i Emaus ac Iesu’n amlygu ei hun i’r disgyblion wrth dorri bara. Fe ychwanegwyd y gwrthgefn yn 1935.

Mae’r ffenestr ddwyreiniol, ym mhen pellaf yr eglwys, yn darlunio’r Arglwydd yn teyrnasu mewn gogoniant ag angylion ar bob ochr iddo’n ei addoli. Islaw mae esgyniad Crist a’r geiriau ‘Ye men of Galilee why stand ye gazing up into heaven’ (Chwi w?r o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef?). Islaw eto mae Saul yn cyfarfod â’r Crist atgyfodedig ar y ffordd i Ddamascus. Mae rhannau eraill y ffenestr yn dangos awduron yr Efengylau, yr archangylion a’r apostolion. Gosodwyd ffenestr y pen gorllewinol yn 1920 ac ar rhan ganol honno fe welir Iesu ar y groes, Mair Magdalen a Mair ei fam ar ei un ochr ac Ioan a’r canwriad ar ei ochr arall.

Ym mhen gorllewinol corff yr eglwys fe ychwanegwyd gyntedd neu borth fel cofeb rhyfel ag arno’r arysgrif – 1914-1919 “OUR GLORIOUS DEAD”.

O gwmpas y fynwent mae rheiliau haearn. Sylwch y grisiau a’u lampiau addurniedig sy’n arwain at fynediad y twr.

Y drws nesaf mae neuadd yr eglwys a godwyd yn 1895, unwaith eto i gynllun Douglas a Fordham.

Mae eglwys St. Paul’s yn nodwedd amlwg o’r dref ac yn enghraifft rhagorol o bensaernïaeth diwedd y cyfnod Fictoraidd.

Gwybodaeth bellach:

Gwefan yr eglwys

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group