Sefydliad y Congo

Dechreuwyd Sefydliad y Congo gan y Parch. W. Hughes, cyfaill i Syr Henry Stanley y bu iddo ei gyfarfod pan oedd yn cenhadu yn y Congo. (H. M. Stanley wrth gwrs oedd y g?r a ynganodd y geiriau enwog, “Dr. Livingstone, I presume”). Ar ôl dychwelyd i Fae Colwyn bu i’r Parch. W. Hughes gychwyn Sefydliad Hyfforddi T?’r Congo er mwyn dysgu crefftau i blant o Affrica a’u haddysgu am Gristnogaeth. Yn ddiweddarach, bu’r myfyrwyr hŷn yn mynychu’r Sefydliad.

Mae’r plant o Affrica sy’n cerdded strydoedd Bae Colwyn bellach wedi dod yn un o nodweddion  yr ardal“. (John Heywood’s Guide Book to Colwyn Bay [1892]).

Darllen Pellach:

Christopher Draper & John Lawson-Reay  Scandal at Congo House

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group