Yr Hen Synagog, Rhodfa’r Tywysog

Mae gwybodaeth ac arteffactau’r gymuned Iddewig ym Mae Colwyn bellach ym meddiant Amgueddfa Iddewig Manceinion. Ymhlith yr arteffactau mae plac a pheintiad olew cysylltiedig â Mark Bloom, sefydlwr synagog Bael Colwyn.

Yn ôl cofnodion yr amgueddfa, roedd Mark Bloom yn werthwr ceffylau a fu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn darparu ceffylau ar gyfer y fyddin. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe anfonwyd ei blant fel faciwis i Fae Colwyn ac fe fu i’w chwaer hefyd symud i’r dref. Ymhen ychydig roedd wedi prynu adeilad sinema ar Princes Drive, ac hefyd y t? cyferbyn. Yma, yn Rhif 37 Princes Drive, y sefydlodd y synagog. Rhoddwyd yr enw Zion House ar y t? ac fe agorwyd y synagog ar y 27ain o Fehefin 1948.

Ar farwolaeth Mark Bloom fe adawyd y t? yng ngofal ei fab, Geoffrey, a anwyd ar yr 21ain o Fehefin. Roedd Geoffrey yn teithio i’r synagog unwaith y flwyddyn i dalu’r gwahanol filiau. Yn anffodus, bu farw Geoffrey ar Awst y 6ed 1954 yn 26 oed, ac fe drosglwyddwyd yr adeilad i berthnasau iddo a’r 9 mudiad crefyddol a restrwyd yn ei ewyllys.

O’r 1950au i’r 1970au fe ddefnyddiwyd y fflat a oedd efo’r synagog fel fflat wyliau i deuluoedd crefyddol. Yn anffodus, yn ystod yr un cyfnod, fe leihaodd y gynulleidfa i’r fath raddau nes y bu iddi ymuno â chynulleidfa tref Llandudno, a gwerthwyd Zion House i’r gwesty drws nesaf yn 1977.

Cyn sefydlu Zion House mae’n debyg bod cymuned fechan Iddewig Bae Colwyn wedi cyfarfod i addloi mewn t? allan ac yna mewn neuadd Eglwys.

Ffynonellau:

Manchester Jewish Museum

 

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group