Ffordd yr Orsaf

Wedi’i gynllunio yn 1887 fel prif stryd siopa’r dref, roedd Ffordd yr Orsaf yn le siopa hynod boblogaidd tan y 1960au. Mae nifer o nodweddion gwreiddiol yr adeiladau i’w gweld hyd heddiw, yn enwedig ar y lloriau uchaf. Y nodweddion cyffredin mewn adeiladau masnachol ym Mae Colwyn oedd y defnydd o haearn bwrw a chanopïau gwydr, gyda mynedfeydd rhwng ffenestri crwm y siopau. Erbyn hyn, yn anffodus, dim ond ambell siop o’r fath sy’n dal ar ôl.

Mae’r cloc y tu allan i’r siop y gornel oedd â’r enw Uxbridge House arno, siop groser cyntaf y stryd. Daeth Boots yn 1979 i gymryd lle siop ddillad Neville & Co, siop adnabyddus iawn ar un adeg. Ond yn fwy enwog na’r brethynnwr roedd siop ddodrefn fawr Daniel Allen, a oedd mewn arddull pensaernïol ffug-Duduraidd. Caewyd y siop yn 1971 pan, yn ol y sôn, ddywedodd ?yr y sylfaenydd na fyddai yn dwyn sen ar enw da ei deulu drwy werthu cynnyrch israddol y gwneuthurwyr modern.

Ffordd yr Orsaf

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group