Llwybr Treftadaeth Hen Golwyn

old colwyn

Yn ddiweddar mae’r Grŵp Treftadaeth wedi dechrau gweithio ar Lwybr Treftadaeth Hen Golwyn a fydd ar gael fel llyfryn rhad ac am ddim yn y Gymraeg a’r Saesneg ac hefyd ar y wefan. Mae’r grŵp yn gweithio gydag aelodau o Gymdeithas Trethdalwyr Hen Golwyn i ddatblygu’r llwybr hanes o gwmpas y pentref.

Buasem yn falch iawn o glywed gennych os gallech helpu gyda hen luniau o’r pentref. Cysylltwch trwy’n tudalen Cysylltu neu galwch draw yn Llyfrgell Bae Colwyn os gallech helpu os gwelwch yn dda.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group