Mae’r rhes hon o adeiladau masnachol yn enghraifft dda o oes aur Bae Colwyn fel cyrchfan gwyliau a chanolfan masnachol. Booth, Chadwick a Porter, prif benseiri Cwmni Ystâd Pwllycrochan a gynlluniodd yr adeiladau.
Adeiladwyd y rhes o naw siop yn 1887 gan Edward Foulkes, tad y pensaer Sidney Colwyn Foulkes. Mae gan wyth siop dalcenni pigfain, a’r nawfed gyda th?r. Mae adeilad W.H.Smith & Sons yn enghraifft ardderchog o’r arddull a gyflwynwyd gan y cwmni yn y 1920au. Yng ngwaith gwydr y canopi fe welwch ddelweddau o Chaucer, Shakespeare, Dante a Dickens.

