
Roedd y gerddi gwreiddiol ar dir hen Blasdy Tan y Coed, a adeiladwyd ar ochr orllewinol Ffordd y Traeth gan berchennog cwmni llongau o Fanceinion, Syr Charles Woodall. Sylwch ar y cerflunwaith a’r byrddau gwybodaeth ger y llwybr sy’n sôn am yr ardd löynnod a’r goedwig.
