Mae’r gerddi hyn yng nghanol y dref ac yn werthfawr iawn fel llecyn agored, gwyrdd. Fe gawson nhw eu galw’n ‘Gerddi’r Frenhines’ i anrhydeddu Brenhines Elisabeth yr 2il pan fu iddi esgyn i’r orsedd. Mae Cofeb Rhyfel y dref yn wynebu Ffordd Conwy. Cerflun o “Tommy” Prydeinig o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ei lifrai ydi hi wedi’i cherfio gan y cerflunydd enwog, John Cassidy. Dadorchuddiwyd hi ar Dachwedd yr 11eg 1922 (Diwrnod y Cadoediad) gan yr Arglwydd Colwyn. Ar yr un diwrnod fe ddadorchuddiwyd coflechi a dwy ffenest goffa yn Eglwys Sant Paul. Mae darluniau o olygfeydd y rhyfel ar waelod y cerflun.
Mae enwau’r 174 a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar y coflechi gyda cherrig mwy diweddar yn coffáu 38 o filwyr a ddisgynnodd yn yr Ail Ryfel Byd ac un milwr a laddwyd yn Rhyfel Corea. Mae enwau dwy ferch yma hefyd. Nyrsys milwrol o frigâd y Frenhines Alecsandra oedd y rhain.
Dyma Rhona Wyer yn rhannu ei atgofion: “I remember when that figure was close to the Town Hall when the Town Hall was close to where the old Job Centre was. I felt overawed to stand below and look up at it and some men would take their hats off as they passed. I saw two women together there once and one was crying and the other just with her. Being close to the Town Hall made it close to the centre of civic life then it got pensioned off to a park and that link was broken”.
Colwyn Bay War Memorial refurbished for Remembrance Service

