Sinema oedd yr adeilad yn wreiddiol. Cafodd ei hadeiladu yn 1914 yn un o sawl sinema yn y dref. Ychwanegwyd balconi a’r addurniadau neo-Eifftaidd yn 1932. Roedd rhai sinemâu yn hynod o foethus, gyda cherddorfa a chaffi. A dweud y gwir, roeddent mor grand nes bod rhai pobl yn eu galw’n “blastai’r pictiwrs”.
Bu’r Princess yn neuadd fingo am rai blynyddoedd cyn ei thrawsnewid yn dafarn yn 1998. Erbyn hynny roedd yn adeilad rhestredig. Mae’r addurniadau Art Deco gwreiddiol y tu mewn i’r Princess Picture House i’w gweld hyd heddiw bron iawn yn gyflawn.