Ystâd Pwllycrochan

Ar gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg Ystâd Pwllycrochan oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r tir lle saif Bae Colwyn heddiw. Roedd hon yn ardal eang, yn ymestyn o Ffordd Nant y Glyn yn y dwyrain i’r Pen Gorllewinol yn y gorllewin ac i’r de hyd at y tai ar Ffordd Llanrwst. Roedd y rhan fwyaf o’r tir yn dir ffermio gydag ychydig o adeiladau fferm yma ac acw.

Mae t? o’r enw Pwllycrochan yn sefyll hyd heddiw yng nghlyw’r nant mewn cwm nid nepell o’r dref. Ystyr ‘crochan’ wrth gwrs ydi cafn neu fath o lestr dwfn gyda’r enw maen si?r yn cyfeirio at siâp y cwm. Mae’n debyg mai Robert Conway a gododd y plasty cyntaf o’r enw Pwllycrochan ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Plasty bychan wedi’i wneud o friciau oedd hwn yn wreiddiol ac roedd wedi ei godi ar dir y cafodd Robert tua 1680. Mae’r adeilad presennol yn olynydd i nifer o blastai o’r un enw a fu’n gartref i sawl sgweier. Daeth y tir i ddwylo teulu’r Williams maes o law gyda Jane Silence Williams yn ei etifeddu ym 1808.

Fe briododd Jane â g?r o’r enw Syr David Erskine o Gambo, Swydd Fife ym 1821. Fe benderfynodd y ddau ymgartrefu ym Mhwllycrochan gan ddymchwel yr hen dy a chodi un newydd yn ei le. Fe blannodd y ddau nifer o goedlannau ar y caeau niferus ac fe lunion nhw lwybrau a phontydd pren yn y goedwig. Bu iddyn nhw gyfuno caeau bychain hefyd i greu parcdir ar bob ochr i’r lôn breifat (Rhodfa Pwllycrochan heddiw). Roedd y rhodfa’n arwain at dyrpeg ger troed y bryn – Ffordd Conwy / Abergele erbyn hyn. Bu farw Syr David ym 1841 ond bu i’w wraig gweddw a’u chwech o blant barhau i fyw yn y plasdy ar ei ôl. Fodd bynnag bu i’r Fonesig Jane a’i mab, y Syr Thomas newydd ddymchwel y t? ac adeiladu’r adeilad sydd yno heddiw yn ei le. Erbyn 1865 fe sylweddolodd Syr Thomas fod yn rhaid iddo dreulio mwy o amser yn gweithio ar ei adeiladau yn yr Alban felly fe benderfynodd werthu’r eiddo oedd ganddo yng Nghymru.

pwllycrochan estate

Bu iddo werthu Ystâd Bodlondeb oedd yn 1850 o aceri, Ystâd Pwllycrochan oedd yn 1191 o aceri a’r 70 o dai oedd ganddo yng Nghonwy.

Dywedwyd ym mhamffled stad Pwllycrochan, yn Saesneg wrth gwrs, fod y plasty’n sefyll mewn “cymdogaeth boblogaidd gyda’r golygfeydd gorau o’r môr. Gerllaw mae traeth ymdrochi bendigedig sy’n filltir a chwarter o hyd. Mae ar siap tro pedol ac yn ffurfio amffitheatr berffaith. Byddwn yn gwerthu’r plasdy fel un eitem a’r rhan ychwanegol ger y môr ar wahân. Diben hyn fydd diwallu’r galw cynyddol am dai ar yr arfordir.”

Fe brynodd John Pender, dyn busnes o Fanceinion blasty Pwllycrochan, adeiladau’r fferm a’r 700 acer o amgylch y plasty am £26,000. Prif ddiddordeb John Pender oedd hyrwyddo’r defnydd o ‘geblau trawsatlantig’ sef y llinellau ffôn cynharaf rhwng Prydain a’r America. Roedd hefyd yn bwriadu datblygu tref lan môr i ddenu trigolion cyfoethog Manceinion a Lerpwl.

Bu i John Pender osod y plasdy ar brydles i’w asiant John Porter a’i newidiodd i fod yn westy ym 1866. Bryd hynny ni fyddai neb wedi mynd heibio unrhyw adeilad wrth deithio o’r gwesty i’r orsaf drenau. Fe brynodd John Porter rhydd-ddaliad yr adeilad pan werthodd John Pender y stâd ym 1875.

Ychwanegwyd darn newydd i’r plasty yn 1887 gan y penseiri oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu Bae Colwyn, sef cwmni Booth, Chadwick a Porter (mab perchennog y gwesty oedd Porter). Roedd y darn newydd wedi ei adeiladu mewn arddull ‘Barwnol Albanaidd.’ Bu i lawer o bobl bwysig aros yn y gwesty dros y blynyddoedd. Yr enwocaf eu plith efallai oedd David Lloyd a ymwelodd â’r gwesty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd yn Brif Weinidog. Bu’r teulu Porter yn berchen ar yr adeilad tan iddyn nhw ei werthu i Ysgol Rydal ym 1938.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Ystâd Pwllycrochan yn un o’r nifer o adeiladau ym Mae Colwyn a feddiannwyd gan y Weinyddiaeth Fwyd. Defnyddiwyd yr adeilad fel ffreutur i’r gweithwyr. Pan adawodd y Weinyddiaeth fe ddefnyddiwyd yr adeilad fel ysgol unwaith eto. Ers hynny mae’r adeilad yn gartref i ysgol gynradd neu ysgol baratoadol Ysgol Rydal – Rydal Penrhos erbyn hyn.

Mae’r adeilad wedi’i newid a’i ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd ond mae rhai o’r nodweddion gwreiddiol yn dal i’w gweld y tu mewn. Rhwng y nodweddion hyn, y nodweddion allanol a’i le pwysig yn hanes y dref, hawdd ydi gweld pam fod yr adeilad wedi’i warchod fel Adeilad Rhestredig Gradd II.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group