Adeiladwyd y rhain rhwng 1905 ac 1907 gan Walter Wiles, pensaer sirol Sir Ddinbych. Llys ynadon oedd Neuadd y Dref yn wreiddiol. Caewyd y llysoedd yn y 1990au ac fe gafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel Siambr y Cyngor a swyddfeydd i Gyngor Tref Bae Colwyn, a oedd newydd ei sefydlu ar y pryd.

