
Mae Llwybr Treftadaeth Parc Eirias wedi cael ei ddatblygu fel rhan o’r Prosiect Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn a’r gymuned leol, gyda chefnogaeth llyfrgell y dref, i hyrwyddo treftadaeth Bae Colwyn ac yn ei gwneud yn hygyrch i bobl o bob cenhedlaeth.
Mae hon yn daith gerdded gylchol hawdd, ddwy filltir o amgylch Parc Eirias yn archwilio hanes y parc. Dilynwch y llwybr gan ddefnyddio’r pwyntiau QR (Ymateb Cyflym) i ddatgelu agweddau gwych ac annisgwyl o dreftadaeth ein parc, gan gynnwys sw, llyn cychod, dinosoriaid, marionetau a Chylch Meini’r Orsedd. Mae’r pwyntiau QR (fel y dangosir yma) yn nodi 20 lleoliad o amgylch y parc a’r ardal gyfagos. Gyda phob cam gallwch ddarganfod hanes cudd a gweld lluniau. Gellir cael gwybodaeth ar bob pwynt ar y llwybr drwy sganio’r pwyntiau QR gan ddefnyddio ffôn Smart. Os ydych chi angen darllenydd QR ewch i dudalen app eich ffôn i lawr lwytho un. Mae map o’r llwybr o amgylch y parc ar gael Map Llwybr Treftadaeth Parc Eirias.
Angen cymorth technegol?
Bydd angen i chi gael ap darllen QR (Ymateb Cyflym) ar eich ffôn Smart. Os nad oes gennych un gallwch ymweld â thudalen ap eich ffôn i ddod o hyd i’r fersiwn sy’n addas ar gyfer eich ffôn chi. I agor y map, sydd yn ffurf PDF, bydd angen i chi gael ap Adobe Reader ar eich ffôn Smart. Unwaith eto, os nad yw ar eich ffon yn barod, ewch i dudalen ap eich ffôn i ddod o hyd i’r fersiwn sy’n addas ar gyfer eich ffôn chi.
Beth yw eich atgofion chi o Barc Eirias?
Byddem yn falch o glywed a rhannu eich atgofion a lluniau o Barc Eirias. Gallwch gysylltu â ni drwy ein tudalen Cysylltu â Ni neu trwy Lyfrgell Bae Colwyn.
Hanes y Parc

Agorwyd “y parc wrth y môr”, fel cafodd Parc Eirias ei ddisgrifio unwaith yn swyddogol ar 27 Medi, 1923. Yn ymestyn dros 50 erw, erbyn 1933 roedd gan y parc gwrs golff bach 18-twll, cyrtiau tenis, lawntiau bowlio, llyn hwylio modelau, caffi, stand bandiau a maes chwarae i blant. Yn y 50au a’r 60au, defnyddiwyd yr hen stand bandiau fel Theatr Marionette yn cael ei rhedeg gan Eric Bramall, sylfaenydd y Theatr Bypedau Harlequin ac wedyn fel Acwariwm a Sw Bach a oedd yn cael ei rhedeg gan Robert Jackson, sylfaenydd y Sw Fynydd Gymreig. Dros y blynyddoedd mae’r parc wedi bod yn lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau, carnifalau, syrcasau a thwrnameintiau, ac mae bellach yn cynnwys Canolfan Ddigwyddiadau Eirias a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae Stadiwm Eirias yn cynnwys cae rygbi a thrac athletau, ac mae’n cynnal digwyddiadau chwaraeon a chyngherddau awyr agored ar gyfer hyd at 15,000 o wylwyr. Cewch wybod mwy am hanes y Parc yma.
Hoffai Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn ddiolch i bawb sydd wedi helpu gyda’r gwaith o baratoi Llwybr Treftadaeth Parc Eirias.
Map Llwybr Treftadaeth Parc Eirias
Mae’r llwybr hwn yn rhan o’r Prosiect Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed a ariennir yn rhannol o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Cymru Iwerddon 2007-13.

