Yn dilyn traddodiad yr Eisteddfod Genedlaethol, cafodd cylch cerrig yr orsedd ei rhoi yma i baratoi ar gyfer seremoni gyhoeddi’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd ar Fehefin 26ain, 1940.

Dylai Eisteddfod Genedlaethol Cymru, dathliad o ddiwylliant Cymreig trwy gystadlaethau llenyddol, cerddorol a dawns, fod wedi digwydd yn 1941 ond roedd yr Ail Ryfel Byd yn golygu y bu rhaid canslo a chynnal Eisteddfod Lenyddol lai yn Neuadd yr Eglwys, Hen Golwyn a hefyd ei darlledu ar y radio.
Rhoddodd y Brenin, Siôr VI, statws brenhinol i’r Eisteddfod ac ym mis Awst 1947 y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Bae Colwyn o’r diwedd. Adeiladwyd pafiliwn helaeth yn y parc.

Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i’w chynnal yng Ngogledd Cymru ar ôl y rhyfel ac roedd yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus mewn cof diweddar gyda bron i 150,000 o bobl yn bresennol.
Cymaint oedd llwyddiant Eisteddfod 1947 y cyflwynwyd i’r dref y giatiau addurnol hardd (pwynt 10 ar y llwybr hwn), sydd yn parhau i sefyll wrth y fynedfa i’r parc.

Ail ymweliad yr Eisteddfod a Bae Colwyn oedd 1947. Roedd yr ymweliad cyntaf yn 1910 pan y gosodwyd Cylch yr Orsedd ar dir a fyddai’n ddiweddarach yn dod yn rhan o’r Sw Fynydd Gymreig.

