Agorwyd Pier Fictoria a’r pafiliwn yn 1900 ac roedd digon o le i 2,500 o bobl. Yn wreiddiol roedd y pier yn 12 metr o led a 96 metr o hyd, ond fe’i hymestynnwyd yn ddiweddarach i 320 metr.
Y cyfarwyddwr cerddorol cyntaf oedd Monsieur Jules Riviere, cerddor a oedd wedi arwain cyngherddau cerddorfaol ar draws Prydain. Bu’n gweithio gyda Chwmni Pier Llandudno cyn ei benodi i’r swydd ym Mae Colwyn. Bu farw Monsieur Riviere yn sydyn yn 81 oed ar Ragfyr y 26ain 1900. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llandrillo yn Rhos ac mae ffenestr yn yr eglwys yn ei goffau. Mae Rhodfa Rivieres ym Mae Colwyn wedi ei enwi er cof amdano.
Yn 1922 bu tân a chafodd y pafiliwn ei ddinistrio. Serch hynny llwyddodd y frigâd dan i achub y pier, ac eithrio’r rhan o amgylch y pafiliwn. Yn 1923 prynodd y Cyngor Dosbarth Trefol y pier ac agorwyd pafiliwn newydd, gyda digon o le i 1,350 o bobl. Dioddefodd yr ail bafiliwn yr un ffawd a’r cyntaf, gan losgi’n ulw ym mis Mai 1933. Cafodd y pier ei achub y tro hwn hefyd. Llosgi fu tynged Theatr Bijou hefyd a aeth ar dân ym mis Gorffennaf 1933.
Agorwyd y trydydd pafiliwn yn 1934 ac roedd digon o le ynddo i 700-750 o bobl. Yn dilyn yr hyn ddigwyddodd i’r ddau bafiliwn cyntaf, adeiladwyd yr un yma o ddeunyddiau gwrthdan! Roedd y pier a’r pafiliwn yn atyniadau poblogaidd tan y 1980au. Ers hynny, er holl ymdrechion sawl perchennog gwahanol, mae’r ddau wedi dirywio’n arw.
Yn dilyn achosion cyfreithiol hirfaith dychwelodd y pier i berchnogaeth y Cyngor ac yn 2018 rhoddwyd caniatâd i ddymchwel y strwythur gyda golwg ar ailadeiladu bonyn llai.

