Sinema gyntaf Hen Golwyn oedd ‘The Picture House’ oedd yn sefyll lle codwyd yn ddiweddarach adeilad a ddaeth yn weithdy trin ceir cwmni M & K (Meredith a Kirkham). Yn y sinema byddai’r oedolion yn eistedd ar feinciau a’r plant ar fatiau yn y tu blaen. Dinistriwyd y sinema gan dân tua’r flwyddyn 1914.
