Tywysog Llywelyn ac Ednyfed Fychan

Rhoddodd Llywelyn ap Iorwerth, a adnabuwyd fel y Tywysog Llywelyn Fawr, y tir yn Llandrillo-yn-Rhos i’r Abad a’r mynachod, yn ogystal â’r tir yn Aberconwy. Roedd y siarter gyntaf yn 1186. Yn draddodiadol, dywedir bod prif gynghorydd Llywelyn, Ednyfed Fychan, ei seneschal, neu ganghellor, wedi lladd tri phrif gapten Ranulf, Iarll Caer mewn brwydr yn 1210 (dywedir mai dyna darddiad ei arfbais).

Llywelyn Ap Iorwerth, statue at Conwy, Wales (Brittanica)

Roedd Ednyfed yn un o gadfridogion dewr Llywelyn, ac yn hynafiad i Harri VII a thŷ’r Tuduriaid. Roedd ganddo sawl maenor yn Sir Ddinbych (yn ogystal â Sir Gaernarfon ac Ynys Môn) ond y mwyaf o’r rhain oedd ar Fryn Euryn.

Roedd y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at ‘Ros Venych’ mewn siarter dyddiedig 1230 lle’r oedd Llywelyn yn cymeradwyo prynu’r tir gan Ednyfyd. Yn y dyddiau hynny roedd y plwyf yn cael ei adnabod fel Dinerth neu Dinarth, caer yr arth, a newidiwyd yr enw i Landrillo yn ystod teyrnasiad Harri VIII.

Mae’r siarter wedi’i chyfeirio at ‘all sons of holy Mother Church…
Let your brotherhood know that Idneved Vachan our Seneschal purchased without assent from the heirs of Dineyrth…the land of Ros Venych with all belongings and liberties in wood, in plain, in grazings, pastures, meadows, paths and waters, and in all easements on sea and on land…’

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group