Ffordd Sea View

Ar y chwith mae Canolfan Siopa Trem y Bae, a agorwyd yn 1987 ar safle’r hen lein aros a’r parc pleser. Roedd agor rhan Bae Colwyn o’r A55 yn 1985 yn newyddion da ar gyfer y dref. Roedd yn gyfle i adeiladu Canolfan Bay View ac i leihau’r tagfeydd traffig ar Ffordd Abergele a Ffordd Conwy. Dychmygwch yr holl draffig sy’n teithio ar yr A55 yn gorfod defnyddio’r ffyrdd hynny heddiw!

Am flynyddoedd roedd Parc Pleser Pat Collins drws nesaf i’r lein aros. Roedd y Cyngor wedi gwrthwynebu’r datblygiad yn 1934, ond newidiodd y Cyngor ei feddwl flwyddyn yn ddiweddarach, ac agorwyd y Parc Pleser ym Mhasg, 1935. Roedd yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd gan aros ar agor drwy gydol y rhyfel. Bu farw Pat Collins ym mis Chwefror 1966 a’i gladdu ar y Gogarth. Caewyd y parc ym mis Rhagfyr 1980.

Ffordd Sea View

Mae cofnodion o’r 1880au yn dangos bod Rhes Sea View, sef yr enw ar y nifer o’r adeiladau ar Ffordd Sea View, yn letai yn ôl pop tebyg.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group