Ar ôl darllen am yr amffora, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn safle lle cafwyd hyd i nifer o ddarnau arian Rhufeinig. Maent yn dyddio o deyrnasiad Cystennin Fawr sef yr Ymherodr Rhufeinig cyntaf i droi at Gristnogaeth (306 – 337). Cafwyd hyd i ddarnau arian o’r cyfnod hwn wedi eu lapio mewn haenau o blwm mewn hen ddraen garreg pan oedd rhan o ardd Rhos Fynach yn cael ei glirio i adeiladu Gwesty’r Rhos Abbey yn 1898.

Ar y safle hwn mae adeilad fflatiau Cwrt San Trillo yn sefyll drws nesa i Ros Fynach. Roedd Gwesty Rhos Abbey yno hyd 1991 pan gafodd ei chwalu, ac yn y cefn mae perllan erbyn hyn lle mae rhai ohonom yn cofio’r pwll nofio awyr agored hyfryd. Ganrifoedd yn ôl roedd gan y mynachod hefyd berllan ar eu tir.
Roeddent yn amaethwyr brwd, a’r Fynach oedd un o’r ffermydd pellennig oedd yn gysylltiedig â’r Abaty yn Aberconwy, a sefydlwyd gan y mynachod Sistersaidd ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Roedd y gored yn dal eog ar Bwynt y Rhos am ganrifoedd, ac efallai mai’r pysgota llwyddiannus oedd y rheswm pam fo’r mynachod wedi ymgartrefu yma.
Roedd y Rhos Fynach a’r holl iseldir o arfordir Llandrillo yn Rhos heibio i’r clwb criced cyn belled â’r cwrs golff yn gorstir, lle gorweddai’r Afon Ganol. Y dyddiau hyn mae amddiffynfa’r môr yn amddiffyn yr ardal rhag llifogydd – ac roedd llifogydd yn digwydd yn rheolaidd, a hynny o fewn co’ byw! Ond dychmygwch hyn, roedd cyfnod pan oedd y tir uchel ar Ffordd yr Abaty, y Mynach a chapel Trillo bron yn ynys!

Yn ôl yr hanes, roedd cychod yn gallu cyrraedd Mochdre ar un cyfnod ar hyd y llwybr yma, ac roedd yr afon yn rhannu’n ddau, un fraich yn llifo allan i’r môr gerllaw Bae Penrhyn. Mae map o 1720 yn dangos llyn mawr a’r llall yn llifo i lawr Rhodfa Penrhyn erbyn hyn, gan fynd i mewn i’r môr ar waelod Ffordd Rhos. Roedd bwthyn Porthdy i Ros Fynach (o’r enw ‘Rising Gull’ yn ddiweddarach) yn arfer sefyll ar gornel Ffordd Rhos.
