Priordy Urdd Sant Awstin, Ffordd y Clogwyn, Hen Golwyn

Sefydlwyd achos yr eglwys Babyddol yn Hen Golwyn yn 1933 gan leianod Urdd Sant Awstin, a hynny mewn lleiandy bychan ar Ffordd y Clogwyn (Cliff Road). Bu i’r lleianod ganiatiáu defnyddio’r Priordy fel capel anwes ar gyfer Eglwys Babyddol Bae Colwyn, eglwys Sant Joseff. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd nid oedd digon o le yno ar gyfer yr holl faciwis Pabyddol a staff y Weinyddiaeth Fwyd a leolwyd yno, ac felly fe gymerodd y Chwiorydd dŷ arall, y drws nesaf i’r lleiandy, a’i alw yn dŷ’r Santes Monica.

St Augustine’s Priory

Mae’r capel presennol, a adeiladwyd yn 1956, wedi ei adeiladu o frics coch gyda drws yn y canol a thair ffenestr fwa uwch ei ben. Mae’r adeilad wrth ei ochr, sydd â’r dyddiad 1907 ar y hopran ddŵr, yn adeilad tri llawr o frics coch gyda ffenestri sydd â physt a meini cynnal o dywodfaen, a tho llechi. Mae ganddo ffenestri bae – un gron ar y blaen ac un fawr dau lawr drawiadol ym mhen yr adeilad ar yr ochr dde.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group