Mae Eglwys Sant Ioan yn esiampl o waith dull unionsyth y pensaer enwog o Gaer, John Douglas (1830-1911). Y fo hefyd a ddyluniodd Eglwys Sant Paul ym Mae Colwyn. Adeiladwyd Eglwys Sant Ioan ar gost o £12,300 ac mae hi erbyn hyn, ynghyd â’i mynedfa, yn Adeilad Rhestredig.
Adeiladwyd yr eglwys fel cangen o Eglwys Sant Catherine, a gosodwyd y garreg sylfaen wrth waelod y talcen dwyreiniol ar y 18fed o Hydref 1899 gan Miss Eleanor Frost o Blas Min y Don. Cysegrwyd yr eglwys ar y 13eg o Awst 1903.

Calchfaen lleol yw deunydd y muriau gydag addurniadau o dywodfaen coch Swydd Gaer o Runcorn ar gyfer y drws, y ffenestri a threswaith y ffenestri. Mae’r to o lechi gwyrdd, a’r rheiny’n lleihau wrth ddynesu at y teils crib coch. Sylwch ar y fynedfa fwaog hardd a’r heyrn crafu esgidiau mawr. Mae nenfwd a chorff yr eglwys wedi eu llunio o bren ffawydd a’r llawr o flociau pren. Cyflwynwyd nifer o’r ffenestri, darnau dodrefn a gosodiadau megis y tair ffenestr gwydr lliw a gysegrwyd i deulu Woodall o Blasdy Tan y Coed, yn rhoddion i’r eglwys.
Roedd y tŵr gorllewinol i fod â rhan uwch wythonglog a meindwr isel iddo. Ond fe newidiwyd y cynllun gwreiddiol i un y tŵr mawr presennol â’i fwtresi â’i dŵr bach. Mae plac – sydd bellach wedi ei rannol guddio gan lwyni – i’w gael ar yr ochr orllewinol ac arno ddyddiad adeiladu’r eglwys (1912) mewn rhifau Rhufeinig: ‘MCMXII’. Ar y gornel dde-orllewinol mae drws bychan sy’n arwain at risiau’r tŵr.
Mae prif fynedfa’r eglwys ar Ffordd yr Orsaf wedi ei amlygu gan bileri tywodfaen coch a giatiau addurniadol sydd â bwa haearn uwchben yn cynnwys y geiriau ‘ST JOHNS’. Mae llwybr llydan, gyda theils ymyl rhaffog ar hyd ei ochrau, yn arwain at y porth blaen. Cymerwch olwg hefyd ar yr ardd löynnod yn y fynwent.
