Credir mai’r adeilad hynod hwn yw’r capel lleiaf yn Ynysoedd Prydain, gan mai lle i chwech o bobl sydd ynddo i gyd. Mae wedi ei enwi ar ol Sant Trillo, sant Celtaidd o’r 6ed ganrif a gododd ei gell yma. Ni wyddys beth yw oed yr adeilad presennol, gan ei fod wedi ei atgyweirio’n helaeth dros y canrifoedd. Mae’n debyg mai o blethwaith a phren y gwnaed y gell wreiddiol, ac efallai iddo godi wal o gerrig a gasglwyd o’r traeth i’w amddiffyn rhag y gwynt.

Ewch i mewn i’r capel os yw ar agor. Saif ar safle ffynnon hynafol. Yma y cai Sant Trillo ei ddwr yfed, a byddai hynny wedi bod yn ffactor a’i hysgogodd i ddewis y safle hwn. Gallwch weld y ffynnon o hyd o flaen yr allor.
Am ganrifoedd lawer defnyddiwyd dwr y ffynnon i fedyddio babanod o bob cwr o blwyf canoloesol Llandrillo. Yn ogystal a hyn, yn yr hen amser roedd i’r ffynnon draddodiad o fedru iachau pobl.
Cynhelir gwasanaethau cymun yn rheolaidd yn yr Eglwys o hyd, mae’n anhygoel meddwl eich bod chi’n sefyll ar safle a fu’n ganolfan addoli i Gristnogion am ryw 1500 o flynyddoedd!
Fel rheol byddai’r mynachod Celtaidd yn codi magwyrydd o amgylch eu celloedd fel y medrent amaethu i’w bwydo eu hunain. Gelwid hwn yn ‘Llan.’ Dyma sut y cafodd Llandrillo-yn-Rhos ei enw. Golyga rhos yr un peth a chors ac felly’r ystyr yw Llan Sant Trillo ger y gors. Roedd yr ardal o amgylch yn gorsog am mai ynys ydoedd yn wreiddiol a ffurfiwyd gan ddwy gangen o’r afon leol.

