Y Nant (Fairy Glen), Hen Golwyn

Mae’r llwybr dwyreiniol ar hyd y Nant yn dilyn Afon Colwyn, a bu i’r teithiwr Edward Llwyd gyfeirio at y lle yn 1699. Dywedodd bod yma saith o ffynhonau a’i yn lle hynod goediog. Yn wir mae olion yma heddiw o goedwig hynafol. Mae’r llwybr hefyd i’w weld ar Fap Degwm Llysfaen 1839 ac erbyn hyn yn rhan o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru. Yn 1903 fe gyflwynwyd y Nant yn rhodd i’r Cyngor gan Stâd Cefn Meiriadog, a daeth yn lle poplogaidd i’r bobl leol a thwristiaid. CAfodd ei adfer yn 1998 ac mae o bellach yn Warchodfa Natur. Mae coed derw a sycamorwydden i’w cael ymhobman yma ac mae’n lle delfrydol ar gyfer gwahanol fathau o redyn.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group