
Adeiladwyd yr adeilad mawr tri llawr hwn tua’r flwyddyn 1830, a’i enw yn wreiddiol oedd y ‘Ship Bach’. Bu i’r Dywysoges Victoria dreulio ychydig amser yma yn 1832 ar ei ffordd yn ôl i Lundain o Blas Newydd, Ynys Môn, sef tŷ’r Marcwis. Roedd angen rhoi dŵr i’r ceffylau, ac yn sgîl yr egwyl fer Frenhinol hon fe alwyd ffordd gyfagos yn Ffordd y Dywysoges.
