Gwefan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn ar ei newydd wedd

Mae Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn yn falch iawn o lansio ein gwefan ar ei newydd wedd.

Mae’r diweddariad yma wedi ei wneud yn bosibl gan gyllid a ddyfarnwyd gan Brosiect Tîm Tref Creu Conwy, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Ar ôl cael ei ailwampio’n flaenorol yn ôl ym mis Awst 2015, mae’r cyllid yma wedi rhoi’r cyfle i sicrhau dyfodol y wefan ac i sicrhau ei bod yn gweithio ar ei gorau ac yn gwbl hygyrch ar gyfer technoleg gyfredol.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r profiad pori newydd ac y bydd yn eich annog i archwilio mwy am Fae Colwyn a’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig, nid yn unig yn y gorffennol ond heddiw.

Os hoffech gysylltu â’r Grŵp Treftadaeth i roi sylwadau ar y wefan neu i ychwanegu atgof i’r archif hanes llafar gallwch ymweld â’n tudalen gyswllt, neu gallwch gyfrannu at y trafodaethau parhaus ar dudalen Facebook Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn.

bae colwyn grwp treftadaeth
Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group