Dydd Iau, Mawrth 6ed, 2025 am 10.00y.b. cynhelir ein cyfarfod Ddoe a Heddiw nesaf yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref Bae Colwyn, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn, LL29 7TE.
SYLWCH AR Y NEWID I’R LLEOLIAD ARFEROL
Byddwn yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith Ethel Hovey, a ‘arweiniodd y ffordd’ mewn sawl agwedd o ddatblygiad y dref, ac eto mae hanes lleol wedi eu anghofio i raddau helaeth.

Bydd y sgwrs yn cael ei rhoi gan ein aelod Gemma Campbell a fydd yn dangos popeth a wnaeth Ethel, yn y gobaith o adfer ei henw. Bydd hi hefyd yn esbonio pam mae Ethel wedi cael ei chydnabod fel un o Ferched Rhyfeddol Cymru a pham y bydd plac porffor yn cael ei ddadorchuddio yn y dref, er anrhydedd iddi ym mis Gorffennaf.
SYLWER y bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn, LL29 7TE, ac oherwydd gwaith adeiladu, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r fynedfa drws cefn. Bydd te a choffi ar gael wrth i chi gyrraedd.
Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw, dim ond troi i fyny ar y diwrnod. Fel arfer, mae croeso i bawb. Mae croeso i chi ddod â ffrindiau a allai fod â diddordeb mewn hanes lleol, neu sydd am edrych y tu mewn i Neuadd y Dref a Siambr y Cyngor, ystafell wych ynddo’i hun.
Edrychwn ymlaen at gael eich croesawu atom.
Cyflwyniad yn Saesneg fydd hwn.
