Y Capten Harry Parker RA 1918 – 2010

Ganwyd Harry, milwr yn y Fyddin Diriogaethol, yng Nghanada ym 1918 ond bu’n byw ym Mae Colwyn ers y 1930au. Ei hen hen daid, Joseph Parker oedd yr arolygwr oedd yn gyfrifol am osod y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi.

Fe gafodd dy am ddim am weddill ei oes yn agos i’r chwarel ger troed Penmaen yn sgîl hyn. Roedd mab Joseph yn swyddog lled bwysig a bu’n gyrru’r trenau ar deithiau prawf rhwng y gorsafoedd. Claddwyd tair cenhedlaeth o’r teulu ym mynwent Hen Golwyn. Yn ddiweddar bu ymdrech fawr i godi arian er mwyn gofalu am y fynwent.

Harry

‘Mi wnes i fynychu Ysgol Ramadeg Bae Colwyn gan ymuno â’r Fyddin Diriogaethol pan dorrodd y rhyfel ym 1939. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r hogiau, mi ges i alwad i ymuno â Chatrawd Canolig Hwsmyn Sir Ddinbych gyda Chapten Cutler. (Mae’r gair ‘canolig’ yn cyfeirio at faint yr arfau.) Chwe deg un oedd rhif fy nghatrawd i ac rôn i yno i weithio fel Arolygydd a Swyddog Cyflenwi. 

Roedd bron pawb arall o’r ardal wedi ymuno â’r fagnelfa. Roedd ganddyn nhw uned yn Wrecsam ac un arall yn Llanrwst. Mi ges i fy rhyddhau o’r fyddin yng Ngorffennaf 1946. Digwydd bod, mae yna lyfr wedi’i gyhoeddi o’r enw ‘The Freedom of burghers’ am Gatrawd Canolig rhif chwe deg un. Yn hwn mae enwau’r holl ddynion a gafodd eu galw i ymuno â’r Fyddin Diriogaethol. Mae enwau Ray a Sid yno, sef brodyr Capten Cutler.

Pan gafodd unedau newydd eu ffurfio yn Dunkirk fe es i i Hull a chael fy anfon i weithio’n Swydd Efrog, lle gwrddais i a ‘ngwraig. Fe ddaeth Catrawd chwe deg un yn Gatrawd Hyfforddi. Yna fe es i i weithio yn y Dwyrain Canol, yr Eidal, De Ffrainc, Marseilles a’r Almaen. Rôn i hefyd yn rhan o’r tîm a gludodd y milwyr o Dunkirk. Fe wnes i aros i ffwrdd o gartref yr holl amser a doedd gen i ddim caniatâd i ddychwelyd. Doeddwn i ddim ym Mae Colwyn yn ystod y Rhyfel o gwbl. Fe ges i ddod adref am gyfnod ym 1940 a 1941 cyn i mi gael fy anfon dramor eto.’

harry in oat field

Mae Harry’n dweud mai dim ond rhyw 6,000 o bobl oedd yn byw ym Mae Colwyn ym 1939. Bu i’r 5,000 o bobl a gyrhaeddodd o Lundain achosi cryn dipyn o ddrwgdeimlad felly. Gweision sifil oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, ac roedd angen nifer o glercod rhan amser arnynt. Bu’n duedd i’r gweision sifil llawn amser edrych yn ffroenuchel ar y gweithwyr rhan amser gan nad oedden nhw’n weision sifil go iawn. Fodd bynnag bu trigolion yr ardal yn dweud pa mor ffodus oedden nhw o gael y cyfle i ddod i ardal mor hyfryd i ddianc rhag y bomiau.

‘Fasa nhw wedi cael trafferth gweithredu heb gyflogi pobl leol fel fy ddiweddar chwaer. Bu hi’n gwneud amryw o dasgau clerigol i’r Weinyddiaeth yn rhai o’r adrannau – te neu rawnfwydydd os dw i’n cofio’n iawn. Bu’r gweision sifil o Lundain yn lletya â theuluoedd yr ardal mewn tai preifat. Mi gafodd gweision sifil go iawn eu hanfon i le fy ewythr i.  Dim ond un gini oedden nhw’n ei gael yr wythnos, sef punt a cheiniog. Dyna sut bathwyd y teitl ‘guinea pigs’.

Roedd y Weinyddiaeth yn dibynnu ar bobl leol i gynorthwyo gyda’r gwaith clerigol. Roedd yn rhaid i rai adael yr ysgol i fynd i weithio – ond fe gawsant eu cofrestru unwaith yr oedden nhw’n ddigon hen. Roedd rhai tadau’n gwrthod caniatáu i’w merched ymuno ag Awyrlu’r Merched ac roedd yn rhaid iddyn nhw weithio i Fyddin y Tir neu wneud gwaith yn ymwneud ag arfau rhyfel.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group