
Roedd y rheilffordd o Gaer i Gaergybi, a gynlluniwyd gan Robert Stephenson (1803-59), yn un o ddatblygiadau rheilffordd pwysicaf canol y 19eg ganrif. Rhan o’r datblygiad hwn oedd y pontydd tiwb dros Afonydd Conwy a Menai (Pont Britannia).
Adeiladwyd y draphont chwe bwa, sy’n sefyll ym mhen draw pen dwyreiniol y promenâd, yn 1847 gyda chanllawiau calchfaen nadd, a llin-gyrsiau amlwg yn ffurfio llinell gysgod ar hyd ei dwy ochr. Mae’r walio o dan y bwâu, rhwng y cerrig allanol, yn waith brics.
