Un budd o ddenu nifer sylweddol i gofrestru â’r Gwarchodlu Cartref oedd caniatáu i’r fyddin barhau â’i gwaith arferol. Bu i nifer o ddynion Gogledd Cymru nad oedd yn gallu ymuno â’r fyddin am amryw o resymau gyfrannu at yr ymdrech ryfel drwy ymuno â’r Gwarchodlu Cartref.
Roedd canghennau o’r Gwarchodlu ym mhob ardal, gyda dynion a oedd efallai yn rhy hen i ymuno â’r fyddin yn aelodau ohonyn nhw. Y Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol oedd enw’r rhain, neu’r “Local Defence Volunteers” i roi eu henw Saesneg arnyn nhw. Fe’u gelwid nhw weithiau yn ‘Look, Duck and Vanish’. Drwy lwc, roedd dynion profiadol a oedd wedi brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn aelodau o Warchodlu Cartref Sir Ddinbych.

Un o’r dynion hynny oedd y Lefftenant-cyrnol John R.Williams, un o’r cyntaf i gofrestru. Pan gychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf fe ymunodd â 4ydd Bataliwn y Ffiwsiliwyr Brenhinol. Bu’n brwydro yn Rouen, Messines, Passchendaele ac Ypres a chafodd ei gomisiynu yn y man yn ail lefftenant. Fe symudodd Williams i weithio i’r Awyrlu Brenhinol yn 1918 lle’i penodwyd o yn swyddog addysg y sgwadron. Fe gymhwysodd fel cyfreithiwr ar ôl y Rhyfel. Bu aelodau eraill o’r Gwarchodlu Cartref yn brwydro yn Fflandrys a Rhyfel y Boer.
Bu i gyfreithwyr lleol eraill ymuno â’r Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Yr Uwchgapten A.I. Edwards oedd y trefnydd ym Mae Colwyn, a’r Capten Arthur Hughes a oedd yn gyfrifol dros ymrestru milwyr yn y dref. J. D. H. Osborn oedd â’r awenau ym Metws-yn-Rhos a’r is-gyrnol John Williams yn Abergele. Arwyddair ei gatrawd oedd ‘Wastad yn Barod,’ arwyddair y gwnaethon nhw bob ymdrech i lynu wrtho.
Roedd gan y Weinyddiaeth Fwyd ei Warchodlu Cartref ei hun a’r ‘Bureaucrats in Battledress’ oedd y llysenw ar yr aelodau. Roedd y biwrocratiaid hyn yn gweithio mewn mannau strategol pwysig – ar y brif reilffordd rhwng Caergybi ac Euston ac ar y pentir a estynnai i’r môr. Ffurfiwyd cwmnïau A, B, C, D ac E i amddiffyn ardaloedd penodol ac fe ffurfiwyd cwmni F o dan awdurdod yr Uwchgapten Lawrence pan sefydlwyd y Weinyddiaeth Fwyd. Bu yntau’n rheoli’r cwmni tan i Lachlan MacLean, Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ac un o brif ysgrifenyddion cynorthwyol Prydain gyrraedd o Lundain ym mis Medi. Roedd llawer a gyrhaeddodd ym mis Gorffennaf 1940 wedi cofrestru â Gwarchodlu Llundain yn y misoedd blaenorol. Gwaith y bobl hyn oedd amddiffyn adran o’r amddiffynfeydd arfordirol.
Awdurdodwyd sefydliad meddygol o fewn y Gwarchodlu Cartref ym mis Ebrill 1941 ac fe benodwyd swyddog meddygol ar gyfer pob bataliwn dan y teitl Uwchgapten. Roedd y Dr Geoffrey Jones yn gyfrifol am Gwmni B ac am yr hyfforddi.

Pan fu gorymdaith i ddathlu tair blynedd o wasanaeth yr uned Weinyddiaeth diddorol oedd gweld aelodau o Warchodlu Cartref y Merched yn y rhengoedd. Gweithwyr y Weinyddiaeth Fwyd oedd y rhain a Miss A. E. French oedd yn rhedeg y sioe. Fe gawson nhw gymeradwyaeth wresog gan dyrfaoedd Bae Colwyn.
Peth anarferol iawn oedd gweld merched yn aelodau o’r Gwarchodlu, rhywbeth y mae’r awdures Penny Summerville yn tystio iddo yn ei llyfr ‘Contesting Home Defence’. Fodd bynnag, roedd merched proffesiynol yn rhan o weithlu’r Weinyddiaeth a bu i lawer o’r rhain ymaelodi gyda Gwarchodlu Cartref y Merched. Roedd eraill yn wragedd i’r gweision sifil gweithredol a ymgiliodd i’r dref.
