Yn 1898 dechreuodd yr Annibynwyr Saesneg (Congregationalists) gyfarfod yn ysgoldy capel Ebeneser, ac yn 1925 fe adeiladon nhw’r eglwys hon. Rhoddwyd coed y deri a glirwyd o’r safle i’r tlodion fel coed tân. Roedd lawnt croce ar y tir hyd nes yr adeiladwyd ysgoldy yno yn 1936. Yn yr 1930au roedd Ysgol Sul yn cyflwyno pantomeim Nadolig ar gyfer yr eglwys a phobl y pentref. Yn 1972 fe ddaeth yr eglwys yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig.

Ac yn fwy diweddar eto fe drowyd yr ysgoldy’n adeilad cymunedol.
Mae’r eglwys wedi ei hadeiladu o galchfaen lleol gydag ychwanegiadau cyferbyniol o dywodfaen. Mae iddi do teils coch trawiadol gyda meindwr arbennig o ddiddorol yn y pen gorllewinol â phen uchaf hir a chul, bylchau gwyntyllu lwfrog a gorchudd teils o gwmpas ei waelod.
Mae porth amlwg o dywodfaen coch ar du blaen cymesur yr eglwys ac ynddo pâr o ddrysau pren a ffenestr ochr culion. Uwchben y porth mae talcen bwaog. Mae’r waliau ochr yn cynnwys pedwar bae sydd wedi eu gwahanu gan fwtresi, a ffenestr tridarn ymhob bae.
Mae manylion gwaith saer yr estyll tywydd yn werth eu gweld. Yn ystod y 1930au fe ychwanegwyd estyniad i’r eglwys a ddyluniwyd gan y pensaer enwog lleol, Sidney Colwyn Foulkes. Mae’r estyniad yn cynnwys ystafell ac ynddi ffenestr fae fawr gyda tho hanner cylch wedi ei chynnal gan bileri a thrawstiau.
Ar hyd terfyn blaen yr eglwys, yn cyd-redeg ag ymyl y ffordd, mae wal galchfaen gyda cherrig copa gwastad mawr ar hyd ei thop. Mae pâr o giatiau haearn addurniadol ar bileri carreg â cherrig copa tywodfaen yn arwain drwy’r wal at y porth.
