Plas a Pharc Min y Don, Hen Golwyn

Roedd Plas Min y Don y drws nesaf i’r parc. Enw gwreiddiol y plasdy oedd Fferm Colwyn, a adeiladwyd yn y 18fed ganrif. Roedd yn gartref i deulu Clough, disgynyddion Syr Richard Clough, gŵr a briododd Catherine Tudor un o wardiaid Elizabeth I.

Dros y blynyddoedd fe ehangwyd y plasdy nes bod ganddo, yn ei ogoniant, mwy na 30 o ystafelloedd. Yn yr 1820au roedd Syr Richard Clough yn mewnforio glo i iard ger y traeth, a throdd Ffordd y Traeth yn llwybr masnachol trwy gyfyngu cwrs yr afon ac adeiladu mur cynhaliol yno. Roedd yn rhaid talu chwe cheiniog (2.5c newydd) am yrru cerbydau ar hyd y ffordd.

Hefyd ar Ffordd y Traeth roedd melin oedd yn malu’r eithin lleol helaeth i’w droi’n fwyd ceffylau. Adeiladodd Charles Frost, perchennog diweddarach, neuadd genhadu ym Mryn y Maen, ac yn 1897 bu i’w wraig Eleanor, oedd erbyn hynny’n weddw, dalu am adeiladu’r eglwys yno. Yn 1899 fe fu iddi hefyd osod carreg sylfaen Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn Hen Golwyn a rhoi iddi addurniadau’r gangell.

O ddechrau’r 1900au tan 1937 roedd y Plas yn ysgol fonedd i blant iau. Yn 1937 fe’i werthwyd, ynghyd â rhan o’r stâd, i adeiladwr lleol oedd am adeiladu tai yno a chafodd ei ddymchwel yn 1938.

Yn 1926 fe gynigwyd cae y drws nesaf i Blas Min y Don i’r Cyngor ei droi’n barc. Ac er yr amod bod y gymuned i godi £1,000 tuag at y gost fe agorwyd y parc i’r cyhoedd yn 1928.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group