Calfaria, Capel y Bedyddwyr, Ffordd y Dywysoges, Hen Golwyn

Sefydlwyd achos y Bedyddwyr Cymraeg yn Hen Golwyn yn 1861 a’r Calfaria cyntaf yn 1862 ym mhen uchaf Church Walks. Mae’r capel hwnnw erbyn hyn yn ddau dŷ, sef rhifau 15 ac 16. Adeiladwyd yr adeilad presennol yn 1893 ar gost o £1,860.

Mae wal flaen y capel yn wal wenithfaen gyda cherrig copa ceiliog ac iâr calchfaen, a’r waliau ochr yn galchfaen. Mae pâr o giatiau ar bileri calchfaen yn arwain o Ffordd y Dywysoges at y porth mynediad, a phlac tywodfaen â thraul tywydd amlwg arno â’r gair ‘CALFARIA’ a geiriau eraill sydd yn bur aneglur erbyn hyn arno hefyd.

former calfaria welsh baptist chapel

Mae’r talcen flaen gymesur wedi ei llunio o resi gwastad o flociau hirsgwar gwenithfaen, a calchfaen ar gyfer y conglau ac o amgylch y drws a’r ffenestri. Mae drws ddwbl y brif fynedfa ar golfachau strap ac wedi ei lunio o ystyllod fertigol o bren cadarn. Mae ffenestri bwa gwydr lliw ar bob ochr i’r porth a ffenestr fawr â bwa crwn uwch ei ben. Mae pedair carreg sylfaen ar bob ochr i’r porth ac arnyn nhw mewn llythrennau eglur y dyddiad Mehefin 8fed 1893.

Mae gan y ffenestr fawr amlwg ac uchel yng nghanol y talcen flaen dreswaith o dywodfaen ynghyd â chwareli sgwâr o wydr lliw, a charreg ddiddos gerfiedig yn amgylchynnu ei hanner uchaf. Mae dyddiad adeiladu’r capel – 18 AD 93 – i’w weld yn amlwg ar y calchfaen.

Mae’r waliau ochr calchfaen yn fwy plaen â phedwar bae’n cynnwys ffenestri codi pren bwa crwn gyda chwareli culion ar eu hymylon. Ar hyd pen uchaf y to llechi mae teils crib cochion.

Mae tu allan y capel yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn wreiddiol ac wedi cadw ei gymeriad.

calfaria sandstone plaque
Calfaria sandstone plaque

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group