Roedd “SCF” yn fab i’r adeiladwr a gododd y rhan fwyaf o’r tai yng nghanol tref Bae Colwyn, Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan a’r adeiladau i’r gorllewin o Ffordd yr Orsaf. Yn anffodus bu i’w dad ddod yn fethdalwr a bu farw’n gynnar. Doedd Sidney’n ddim ond un ar bymtheg mlwydd oed ar y pryd ac arno fo y disgynnodd y cyfrifoldeb o gadw’r teulu mawr. Bu’n gweithio fel saer a mân adeiladwr cyn iddo ennill ysgoloriaeth i astudio pensaernïaeth gyda’r Athro Syr Charles Reilly, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Lerpwl. Fe ddychwelodd i Fae Colwyn wedi cyfnod gyda’r Gwasanaeth Awyr Brenhinol Llyngesol (er i benseiri yn Llundain ei gynghori i aros yn y Brifddinas).

Yn y 1920au fe gynlluniodd gofeb rhyfel yn Llandudno a hefyd sinema’r Arcadia yn Princess Drive. Ei gamp fawr nesaf oedd cynllunio’r Ysbyty ar Ffordd Hesketh gan ddefnyddio syniadau arloesol o America. Dyma a’i rhoddodd ar y map fel pensaer. Yn y 30au fe ddyfarnwyd Gradd Anrhydeddus Meistr Pensaernïaeth iddo gan Brifysgol Lerpwl. Trodd ei law wedyn at Ysgol Rydal, Adeilad Costain ac yna’r Neuadd Goffa ym 1957. Ef oedd yn gyfrifol am gynllunio Woods ar Ffordd yr Orsaf, T? Eglwys Sant Ioan yn Hen Golwyn (1935-7) ac amryw o dai hyfryd megis y “Wren’s Nest” ar Ffordd Lansdowne. Fe gynlluniodd ei gartref ei hun, sef “Moryn” ar Rodfa Cayley hefyd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd hefyd yn cynllunio sinemâu modern yn y Rhyl, Penbedw, Fflint ac yng Nghonwy. Roedd ganddo ddawn ddihafal o gael adeilad modern i asio gyda’r adeiladau mwy hanesyddol.
Bu’n gweithio ar brosiectau tai dipyn mwy yn Llanrwst a Biwmares ar ôl yr Ail Ryfel Byd gan gynllunio tai teras mewn ffordd oedd yn addas i’w codi ar lethr. Fe ddaeth Aneurin Bevan, y Gweinidog Tai i ymweld ag o unwaith. Llwyddodd Sidney i’w berswadio y dylid anwybyddu’r cyfyngiadau oedd mewn grym a chodi adeiladau â nenfydau is. (Roedd Sidney wedi’u hanwybyddu beth bynnag!) Amcan y syniad oedd arbed deunyddiau, amser a chostau gwresogi. Yna fe gynlluniodd Sidney Ystâd Ffordd Elwy yn Rhos gan gipio gwobr gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig am ei waith. Bu Clough Williams Ellis yn ymweld â’r Ystâd ac fe dderbyniodd glod am yr adeiladau ganddo ef a’r pensaer blaenllaw o America Frank Lloyd Wright hyd yn oed. Bu iddo ennill teitl Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig a daeth yn Rhyddfreiniwr y Fwrdeistref yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Roedd yn un o sefydlwyr Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ac yn rhan o Gyngor Diogelu Cymru Wledig.
At hyn cafodd Sidney ei benodi ar anogaeth yr Athro Syr Patrick Abercrombie fel Ymgynghorydd Tirwedd i’r Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan. Roedd y Bwrdd yn datblygu cynlluniau trydan d?r sylweddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Clywedog a Rheidol. Mor hawdd fyddai anrheithio’r tirlun prydferth gyda’r cynlluniau, ond o dan ddwylo medrus Sidney llwyddwyd i’w cael i weddu â gweddill yr ardal. Bu Sidney’n gweithio ar gynllun tebyg yn Aberdaugleddau lle’r oedd llongau anferth yn dod i’r harbwr. Roedd angen tanciau mawr ar y lan i lenwi’r rhain â bwyd. Adeiladwyd caer anferth gyda waliau uchel o’i chwmpas ym 1863 er mwyn amddiffyn yr harbwr. Fe lwyddodd i berswadio BP i osod eu tanciau y tu mewn i’r gaer ac i’r cwmni Americanaidd Esso osod eu rhai hwythau o dan y llinell dir o’r golwg. Roedd hyn yn sicrhau nad oedd y tanciau’n sbwylio golygfa hardd yr Aber. Roedd Sidney hefyd yn ymgynghorydd tirwedd yn Ardal y Llynnoedd ar gyfer gwaith peirianneg sylweddol yn gysylltiedig ag Ullswater ac Windermere.
