Eglwys y Bedyddwyr, Ffordd Abergele, Hen Golwyn

Dechreuwyd achos Bedyddwyr Saesneg Hen Golwyn yn 1885 yn 5, Twnan Terrace, tŷ sydd bellach yn un o dai Pen y Bryn. Yn 1891 fe godwyd capel ar safle fu’n diweddarach yn safle hen garej gloi M & K. Roedd yn adeilad to sinc a gafwyd o Benmaenmawr am £60 ac roedd bobl yn cyfeirio ato fel ‘y capel haearn’ neu’r ‘capel sinc’. Agorwyd y capel presennol ar gost o £2,500 yn 1906.

Mae’r eglwys drawiadol hon, un o ychydig adeiladau crefyddol coch yr ardal, yn adeilad brics gyda chymalau culion, to coch ac addurniadau clai coch (teracota).

Mae pedwar bae i wal ochr yr eglwys, y rheiny wedi eu gwahanu gan fwtresi, a phob un yn cynnwys ffenestr pyst a chroeslath gwydr lliw gyda thop bwa a charreg ddiddos. Yn nghefn y capel mae’r ysgoldy, a rhwng bwtresi wal hwnnw mae dwy ffenestr pyst a chroeslath syml. Ar ochr Ffordd y Dywysoges yn cysylltu’r ddau adeilad, mae ail fynediad y capel.

Mae’r brif fynedfa, yr ochr draw i giatiau isel haearn, yn cynnwys pâr o ddrysau mawr pren sy’n troi ar golfachau strap addurniedig ac sydd â phaneli gwydr lliw culion uwch eu pennau.

Mae’r tŵr a’r meindwr brics a theracota yn nodwedd drawiadol sy’n cysylltu’r talcen flaen â’r wal ar ochr Ffordd y Dywysoges. Sylwch ar y pedair mân-dŵr a’r ffenestri gwydr lliw ynddo sy’n goleuo tu mewn y porth.

Yn y talcen sy’n wynebu Ffordd Abergele mae dwy ffenestr lliw gyda chwareli ymylon plwm. Mae’r brics coch llyfn a’r terracotta yn cyd-fynd yn dda â’i gilydd – sylwch ar y cerrig copa, cerrig diddos, topiau bwtres, silffoedd ffenestr, linteri a’r treswaith ffenestr teracota.

Gosodwyd cerrig sylfaen y talcen blaen ar y 14eg o Fehefin 1905.

O gwmpas yr eglwys mae wal gerrig wenithfaen gyda godre a cherrig copa calchfaen.

Mae tu allan yr eglwys wedi goroesi’n rhyfeddol, a’r drysau efallai’r un lliw gwyrdd atyniadol ag oedd y rhai gwreiddiol.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group